Trussell: Cyfeirio 'dros 100,000' at fanciau bwyd

  • Cyhoeddwyd
Banc bwydFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y cyfeiriadau at fanciau bwyd wedi pasio 100,000 yng Nghymru am y tro cyntaf, yn ôl elusen Ymddiriedolaeth Trussell.

Roedd cynnydd o 43% yn nifer y pecynnau bwyd sydd wedi eu darparu gan yr elusen yn y pum mlynedd diwethaf.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, roedd cynnydd o 15% yn y pecynnau bwyd brys i blant yn y flwyddyn diwethaf.

Y ffaith nad oedd budd-daliadau'n ddigon i dalu am gostau byw oedd yn gyfrifol am bron i draean o'r cyfeiriadau at fanciau bwyd, meddai'r elusen.

Dywedodd Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU nad oedd yn deg honni bod newidiadau i fudd-daliadau yn gyfrifol am gynnydd yn nefnydd banciau bwyd.

'Angen lleihau'r straen'

Mae rheolwr gweithredol Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru'n dweud ei bod yn "gweld y nifer uchaf o bobl yng Nghymru yn dod drwy ddrysau banciau bwyd, yn syml gan nad ydyn nhw'n gallu fforddio bwyd".

Ychwanegodd Susan Lloyd-Selby: "Ni ddylai unrhyw un gael ei adael yn llwgu neu'n amddifad ac mae'n rhaid helpu'n gilydd i sicrhau bod cymorth ariannol ar gael pan rydyn ni ei angen fwyaf."

Disgrifiad,

Mae pobl o bob math o gefndiroedd dan straen, medd Liz Casey, un o wirfoddolwyr Banc Bwyd Y Drenewydd

Dywedodd yr elusen bod 113,000 o becynnau bwyd tri diwrnod brys wedi eu rhoi i bobl yng Nghymru.

Mae'r rhai sydd eu hangen yn derbyn taleb gan fudiadau cymunedol, ysgolion, meddygon neu asiantaethau tai.

Y prif resymau bod pobl angen pecyn bwyd brys ydy:

  • Budd-daliadau ddim yn ddigon i dalu costau byw (32%);

  • Oedi (23%) neu newidiadau (18%) i fudd-daliadau;

  • Roedd 51% o gyfeiriadau oherwydd oedi i fudd-daliadau yng Nghymru gyda chysylltiad â Chredyd Cynhwysol.

Mae'r elusen yn galw am atal yr oedi o bum wythnos am daliad cyntaf Credyd Cynhwysol.

Dywedodd Ms Lloyd-Selby bod hynny'n "flaenoriaeth" er mwyn "lleihau'r straen ar filoedd o gartrefi".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Budd-dal ar gael o'r diwrnod cyntaf'

Mae Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn dweud nad yw'n wir bod rhaid aros am bum wythnos am daliad cyntaf Credyd Cynhwysol, a bod y budd-dal "ar gael o'r diwrnod cyntaf".

Ychwanegodd y llefarydd "nad oes modd honni bod Credyd Cynhwysol yn gyfrifol am gynnydd mewn defnydd banciau bwyd, na chwaith newidiadau i fudd-daliadau".

Dywedodd y llefarydd bod ymchwil Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos "cwymp sylweddol" yn y gyfran o becynnau bwyd sy'n cael eu rhoi oherwydd oedi i fudd-daliadau, gan ychwnaegu bod £10bn wedi ei fuddsoddi yn system Credyd Cynhwysol ers 2016.