Rhybudd melyn am wynt wrth i Storm Hannah daro Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar hyd ardaloedd arfordirol de a chanolbarth Cymru.
Mae hyrddiadau o 50-70mya a glaw trwm, dolen allanol yn bosib rhwng 21:00 nos Wener a 15:00 ddydd Sadwrn.
Mae 'na rybudd y gallai amodau gyrru fod yn anodd, a gallai'r tywydd gael effaith ar gyflenwadau trydan a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Daw'r rhybudd ddiwrnodau wedi i Gymru fwynhau'r tymheredd uchaf erioed ar Sul y Pasg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2019