Rheilffordd Dyffryn Conwy ar gau oherwydd difrod storm

  • Cyhoeddwyd
RheilfforddFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Bydd rheilffordd Dyffryn Conwy ar gau am beth amser oherwydd difrod a achoswyd gan Storm Gareth dros y penwythnos.

Dywedodd Network Rail bod y llifogydd wedi achosi difrod sylweddol i'r lein ac offer cysylltiedig, a bydd gwasanaeth bysiau yn cludo teithwyr yn y cyfamser.

Bydd y rheilffordd yn parhau ar gau nes i beirianwyr gwblhau asesiadau manwl a chyflawni'r atgyweiriadau angenrheidiol.

Mae Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy, Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru yn cydweithio'n agos i gadw teithwyr yn symud a bydd gwasanaeth bws yn gweithredu o 18 Mawrth nes i'r rheilffordd ail-agor.

Ymddiheuro

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: "Ymddiheurwn i deithwyr sydd wedi cael eu heffeithio ar ôl cau Lein Dyffryn Conwy.

"Mae hyn oherwydd llifogydd, sydd wedi achosi difrod sylweddol i'r rheilffordd a chyfarpar ar ochr y lein.

"Er mwyn cadw teithwyr yn ddiogel, bydd y lein yn parhau ar gau nes i'n peirianwyr gwblhau asesiadau manwl a chyflawni'r atgyweiriadau angenrheidiol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Philip C Evans, cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy bod y "tywydd garw wedi effeithio llawer o bobl yn y dyffryn ac mae'r rheilffordd wedi dioddef hefyd".

"Yn amlwg, rhaid cyflawni gwaith mewn amryw o leoliadau i er mwyn i'r lein weithredu'n ddiogel unwaith eto," meddai.