15 mis o garchar wedi ei ohirio i fam am ysgwyd plentyn

  • Cyhoeddwyd
Llys y goron CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod nad oedd unrhyw achos naturiol all fod ar fai am gyflwr y plentyn

Mae dynes a blediodd yn euog i ysgwyd ei babi chwe mis oed gan achosi niwed corfforol difrifol wedi derbyn dedfryd o 15 mis yn y carchar wedi ei ohirio.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y ddynes 36 oed o ardal Casnewydd wedi achosi anafiadau fyddai wedi gallu cael "effaith ofnadwy" ar fabi oedd yn hynod o fregus ar y pryd.

Pan gysylltodd y fam â'r gwasanaethau brys, dywedodd hi fod y babi wedi "mynd yn llipa" ac wedi "stopio anadlu".

Yn ôl y ddynes roedd hi wedi canfod y babi yn y cyflwr yma, ac ychwanegodd nad oedd y plentyn wedi bod yn iach ers rai dyddiau.

Fe wnaeth hi geisio adfywio'r plentyn tan fod ambiwlans wedi cyrraedd.

'Wedi ei llorio'

Dywedodd Matthew Cobbe ar ran yr erlyniad bod yr ambiwlans wedi cyrraedd o fewn chwe munud, a bod y fam "wedi ei llorio" pan gyrhaeddon nhw.

Yn dilyn archwiliad meddygol yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd daeth i'r amlwg fod gan y plentyn anafiadau mewnol dwfn o gwmpas yr ymennydd o ganlyniad i drawma.

Clywodd y llys bod yr anafiadau wedi cael eu hachosi drwy ysgwyd, ac nad oedd unrhyw achos naturiol all fod ar fai am gyflwr y plentyn.

Yn wreiddiol roedd y ddynes wedi gwrthod yr honiadau yn ei herbyn, ond fe blediodd hi'n euog i achosi niwed corfforol difrifol wrth i'r achos ddechrau.

Yn ogystal â'r ddedfryd o 15 mis yn y carchar wedi ei ohirio, bydd rhaid i'r ddynes dalu costau o £1,800.

Fe glywodd y llys nad yw'r plentyn bellach yn dangos llawer o sgil-effeithiau o'r digwyddiad.