Ailgylchu 200m o glytiau: Nifer o syniadau 'syfrdanol'

  • Cyhoeddwyd
NappyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cewynnau brwnt sydd i gyfrif am 10% o'r gwastraff sy'n cael ei gasglu yng Nghymru

Mae dyfeisiwr o Sir Gaerfyrddin wedi darganfod ffyrdd newydd o ailgylchu'r 200 miliwn o gewynnau sy'n cael eu taflu gyda'r sbwriel yng Nghymru bob blwyddyn.

Clytiau sy'n gyfrifol am 10% o'r sbwriel sy'n cael ei gasglu, gan greu cur pen i'r awdurdodau lleol wrth iddyn nhw geisio tirlenwi cyn lleied o wastraff â phosib.

Ond erbyn hyn mae Rob Poyer o gwmni NappiCycle yn Rhydaman yn eu defnyddio i greu pinfyrddau a deunydd insiwleiddio.

O ganlyniad, mae saith cyngor bellach yn prosesu tua 850,000 o gewynnau bob wythnos.

Mae cynghorau Cymru'n anelu at ailgylchu 60% o'r gwastraff sy'n cael ei gasglu erbyn 2019-20, ac mae Llywodraeth Cymru'r gobeithio atal unrhyw wastraff rhag cael ei dirlenwi erbyn 2050.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae cyfraddau ailgylchu Cymru'n 63%, o'i gymharu â 45% yn Lloegr.

'Cynlluniau gwallgof'

"Mae torri pethau fel tuniau a bwyd [o fagiau bin] yn gymharol hawdd, ond mae rhai cynghorau bellach yn casglu bagiau bin bob tair neu bedair wythnos," meddai Mr Poyer.

"Os ydych chi am wneud hynny, mae'n rhaid tynnu mas y gwastraff mwyaf llafurus."

Ffynhonnell y llun, Nappicycle

Yn sgil ei brofiad o ddelio â gwastraff clinigol a thirlenwi, daeth Mr Poyer i'r casgliad mai cewynnau a phadiau i bobl â thrafferthion mynd i'r tŷ bach oedd fwyaf anodd eu trin, yn ogystal â phecynnau tabledi a hen gryno-ddisgiau.

Mae ailgylchu clytiau yn ddrud, a dim ond 25% o ddeunydd sy'n weddill i'w brosesu ar ôl cael gwared ar y gwastraff dynol.

Aeth Mr Poyer ati i geisio datrys y broblem ddegawd yn ôl, gan arbrofi gyda "llawer o gynlluniau gwallgof" cyn datblygu ffordd o olchi'r cewynnau oedd hefyd yn eu torri'r fân.

Mae hylif o'r gwastraff yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio fel catalydd i droi'r cewynnau yn ffeibr, cyn eu rhoi trwy felin a chreu pelenni.

"Rydym yn cyd-ddatblygu defnydd o fewn sment, ond fe allai gael ei ddefnyddio mewn pecynnau a phinfyrddau... hefyd panelau wal, deunyddiau acwstig, insiwleiddio a dan loriau laminedig.

"Mae yna nifer syfrdanol o bosibiliadau."

Saith cyngor

Mae Mr Poyer yn cydweithio â phrifysgolion i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ailgylchu'r clytiau, ond gan fod cyn lleied o lwyddiant hyd yma mae'r farchnad am y gwasanaeth yn gyfyng.

O ganlyniad mae 50% o'r hyn y mae'n ei brosesu yn cael ei ddefnyddio fel tanwydd.

Mae Nappicycle yn cydweithio â saith o gynghorau ar hyn o bryd - Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Conwy, Gwynedd a Sir Gâr.

Cynghorau Caerdydd a Mynwy oedd y rhai cyntaf yng Nghymru i benderfynu ailgylchu cewynnau, a hynny ym Medi 2011, ond mae'r ddau bellach yn eu danfon i losgydd ers i gwmni ailgylchu ddirwyn i ben.

Ffynhonnell y llun, Gareth James/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai cynghorau yn danfon cewynnau i gael eu llosgi mewn canolfannau sy'n delio â gwastraff na ellir ei ailgylchu

O'r 19 awdurdod lleol yng Nghymru wnaeth ymateb i geisiadau am wybodaeth, dywedodd saith eu bod yn cynnig darpariaeth ychwanegol wrth drefnu i gasglu bagiau bin teuluoedd gyda phlant, ond mae cewynnau wedyn yn cael eu prosesu mewn canolfannau sy'n creu ynni o wastraff.

Dywedodd pedwar nad ydyn nhw'n trefnu i gasglu cewynnau - ar sail y gost, yn achos rhai. Roedd chwech o'r cynghorau a ymatebodd yn defnyddio cynllun Mr Poyer.

Mae'r ddau arall - siroedd Penfro a Cheredigion - ar fin cynnal cynllun peilot i ailgylchu cewynnau.