Robin McBryde i ymuno a thîm hyfforddi Leinster

  • Cyhoeddwyd
Robin McBrydeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd gyda'r tîm rygbi cenedlaethol ar ddiwedd 2019.

Fe fydd McBryde yn cymryd swydd fel un o hyfforddwyr tîm Leinster yn Iwerddon.

Daw'r cyhoeddiad 13 o flynyddoedd ers i'r cyn-fachwr ymuno a thîm hyfforddi Cymru yn 2006.

Dywedodd McBryde ei fod yn "hynod o falch" o fod wedi cael hyfforddi Cymru.

Ymunodd McBryde fel un o hyfforddwyr Cymru ar ôl ymddeol o chwarae'n broffesiynol yn 2005, ac ers 2008 bu'n rhan o ddim hyfforddi Warren Gatland sydd wedi cipio tair Camp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Eglurodd McBryde ei fod wrth ei fodd cael ymuno â Leinster.

"Maen nhw'n un o'r timau sy'n sefyll allan fwyaf yn Ewrop, gyda hunaniaeth gadarn a hanes balch," meddai.

"Dwi'n edrych ymlaen yn arw i ddechrau gyda nhw yn nes ymlaen eleni."

Ychwanegodd bod ei brofiad fel un o hyfforddwyr Cymru wedi bod yn "hynod o werthfawr".

Bydd McBryde yn gadael ei swydd gyda Chymru ar ddiwedd Cwpan y Byd 2019.