Arestio dau wedi i 'lun o gorff Sala' gael ei rannu
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio wedi i lun honedig o gorff cyn-ymosodwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Emiliano Sala gael ei rannu ar-lein, wedi arestio dynes 48 oed a dyn 62.
Cafodd y ddynes o Corsham, Wiltshire, ei harestio ar amheuaeth o gael mynediad heb ganiatâd i gyfrifiadur, a chyfathrebu yn faleisus. Mae hi wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Fe gafodd dyn 62 oed o Calne, Wiltshire, ei arestio ar amheuaeth o gael mynediad heb ganiatâd i ddeunydd cyfrifiadur, ac mae o wedi ei ryddhau tra bod yr ymchwiliad iddo yn parhau.
Cafodd post mortem ar gorff Emiliano Sala ei gynnal ar 7 Chwefror.
Dywed yr heddlu iddynt ddod yn ymwybodol fod delweddau wedi eu rhannu ar wefan Twitter ar 13 Chwefror.
"Mae teulu Emiliano wedi cael gwybod am y digwyddiadau diweddaraf," meddai llefarydd.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Wiltshire: "Does yna ddim tystiolaeth i awgrymu fod unrhyw un wedi torri mewn i'r marwdy, a dim tystiolaeth i awgrymu fod staff y marwdy, na chwaith unrhyw un arall o staff y cyngor wedi gwneud unrhyw beth o'i le."
'Mwy o loes'
Dywedodd y ditectif arolygydd Gemma Vinton o Heddlu Wiltshire fod ffeil o dystiolaeth wedi ei hanfon at Wasanaeth Erlyn y Goron yr wythnos diwethaf i ystyried a ddylai unrhyw gyhuddiadau troseddol gael cymryd yn erbyn dau unigolyn sy'n destun yr ymchwiliad.
"Mae ein teimladau gyda theulu Emiliano o ganlyniad i'r boen maen nhw wedi dioddef dros y tri mis diwethaf, ac na ddylai wedi gorfod dioddef mwy o alar drwy wybod fod delweddau o'r fath wedi eu rhannu ar y we.
"Byddwn yn annog pobl i roi'r gorau i rannu'r ddelwedd - mae hyn yn achosi mwy o loes i deulu Emiliano a'i ffrindiau."
Cafodd corff yr Archentwr 28 oed ei ddarganfod wrth archwilio gweddillion yr awyren Piper Malibu ar 4 Chwefror.
Roedd Sala a'r peilot David Ibbotson yn hedfan dros Fôr Udd ar 21 Ionawr pan ddiflannodd eu hawyren ger ynys Guernsey.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2019