Tân mawr mewn iard yn nhref Rhydaman
- Cyhoeddwyd
Tân mawr mewn iard yn nhref Rhydaman
Mae 30 o ddiffoddwyr tân yn ceisio mynd i'r afael â thân mawr yn nhref Rhydaman, Sir Gaerfyrddin.
Yn ôl Heddlu Dyfed Powys mae'r tân wedi'i leoli yn safle cwmni Ammanford Metal Recycling ar ffordd y Shands.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 15:15 brynhawn Mawrth ac mae pum injan dân wrthi'n brwydro'r fflamau.
Mae'r heddlu yn rhybuddio trigolion i osgoi'r ardal ac i gadw eu ffenestri a drysau ar gau.