Marwolaeth merch yn parhau'n ddirgelwch

  • Cyhoeddwyd
Muriel (canol) gyda'i chwioryddFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Muriel Drinkwater (canol) yn dilyn ymosodiad arni yn 1946

Wedi i'r heddlu geisio cysylltu llofrudd plant drwg-enwog gyda marwolaeth merch 12 oed yn Abertawe yn 1946, mae teulu Muriel Drinkwater yn dal i aros am gyfiawnder.

Roedd ditectifs wedi bod yn ymchwilio eto i un o'r darnau hynaf o dystiolaeth fforensig sy'n bodoli yn y byd.

Y gred oedd y gallai staen 70 oed ar ddilledyn Muriel Drinkwater roi atebion am ei marwolaeth.

Ond dangosodd y sampl yn ddiamheuol mai nid Harold Jones - oedd yn cael ei amau'n gry' o fod yn gyfrifol - wnaeth ladd Muriel.

Dywedodd ei theulu wrth BBC Cymru eu bod yn dal i obeithio y bydd cyfiawnder iddi.

Sampl fforensig hynaf y byd?

Roedd Muriel Drinkwater yn cerdded adref o'r ysgol pan gafodd ei threisio a'i saethu ddwy waith mewn coedwig ym Mhenllergaer, Abertawe.

Cafodd miloedd o bobl eu holi ynglyn â'r achos yn 1946 - ond ni ddaeth yr heddlu o hyd i'w llofrudd.

Disgrifiad o’r llun,

Harold Jones yn gwisgo oriawr aur gafodd ei roi iddo ar ol iddo gael ei ryddhau yn dilyn llofruddiaeth Freda Burnell

Roedd Heddlu'r De wedi ceisio cysylltu'r dystiolaeth gyda Harold Jones, oedd wedi lladd dwy ferch erbyn ei fod yn 15 oed.

Yn 1921 roedd Jones, o Abertyleri, yn cael ei gyhuddo o lofruddio merch wyth oed, Freda Burnell.

Jones oedd y person olaf i'w gweld yn fyw, ond er hynny, roedd rhai yn amau a'i bachgen ifanc oedd yn gyfrifol, ac fe gafodd ei ryddhau.

Ond o fewn dyddiau, roedd wedi lladd eto, gan lofruddio ffrind i Freda - Florence Little, 11 oed.

Cafodd ei garcharu am 20 mlynedd, ac yna roedd cyfnod yn y lluoedd arfog a ddaeth i ben yn 1946 - pedwar mis cyn marwolaeth Muriel Drinkwater.

'Angen cyfiawnder'

Oherwydd oed y dystiolaeth sydd dan sylw, roedd y ffaith bod yr heddlu'n ceisio cael sampl o DNA yn anarferol iawn.

Ond wedi'r siom ddydd Mercher dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis: "Gall canlyniadau'r archwiliad fforensig gadarnhau yn ddiamheuol mai nid Jones oedd yn gyfrifol am lofruddiaeth Muriel Drinkwater.

"Rwyf wedi siarad gyda theulu Muriel i'w hysbysu am y manylion diweddaraf.

"Mewn achosion hanesyddol fel hwn fe fydd yr achos yn parhau'n agored ac yn destun ailymchwiliad os a phan y bydd gwybodaeth newydd yn dod i law neu os fydd newidiadau mewn gwyddoniaeth fforensig.

"Byddwn yn adolygu pob achos o bryd i'w gilydd."

Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod Harold Jones wedi llofruddio sawl dynes arall yn Llundain yn y 1960au

I nith Muriel, Margaret, oedd ddim am roi ei henw llawn, byddai'n "rhyfeddol" i gael atebion i'r achos.

Dywedodd: "Fe wnaeth llofruddiaeth [fy modryb] gael effaith enfawr ar fy mam a'i theulu.

"Yn ddelfrydol, hoffwn roi diweddglo ar yr holl beth.

"Mae angen i ni gael cyfiawnder i Muriel."