Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn 'osgoi archwiliad'

  • Cyhoeddwyd
Alun Cairns

Mae gweinidogion Prydeinig wedi eu cyhuddo o osgoi archwiliad drwy wrthod rhoi tystiolaeth i'r Cynulliad.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wedi gwrthod sawl gwahoddiad i ateb cwestiynau Aelodau Cynulliad.

Wythnosau ar ôl iddo gael ei feirniadu gan y Pwyllgor Cyllid, gwrthododd wahoddiad arall i ddod i Fae Caerdydd.

Dywedodd Mr Cairns ei fod yn atebol i Senedd San Steffan tra bod Llywodraeth Cymru'n atebol i'r Cynulliad.

'Ffars'

Rhoddodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss, ateb tebyg pan gafodd ei gwahodd i ymchwiliad i wariant Llywodraeth Cymru ar gynlluniau adeiladu.

Mae Llywodraeth y DU yn rhoi terfyn ar faint o arian mae Llywodraeth Cymru'n cael ei fenthyg.

Ond mewn llythyron dywedodd Mr Cairns a Ms Truss y byddai'n fwy addas i weinidogion Llywodraeth Cymru roi tystiolaeth.

Ychwanegodd Mr Cairns mai dyma'r trydydd gwahoddiad iddo ei dderbyn o fewn yr wythnosau diwethaf.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Truss hefyd wedi gwrthod gwahoddiad i roi tystiolaeth i'r Cynulliad

Mae'r pwyllgor wedi dweud ei fod yn "arbennig o rwystredig" bod Mr Cairns yn cynnig cyfarfod ACau unigol i drafod datganoli pwerau treth yn hytrach na mynd i gyfarfod pwyllgor cyhoeddus.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Llyr Gruffydd, nad oedd yn ceisio "sgorio pwyntiau", a'i fod yn "wirioneddol eisiau archwilio".

Ychwanegodd bod Ms Truss yn "osgoi ei dyletswydd a'i chyfrifoldeb oherwydd ar ddiwedd y dydd mae hi'n gyfrifol am lefelau benthyca yng Nghymru".

Wrth drafod Ysgrifennydd Cymru, dywedodd: "Mae'r holl beth yn siomedig - ond ar lefel arall mae'n ffars oherwydd mae [Mr Cairns] yn osgoi archwiliad."

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Mae Ysgrifennydd Cymru'n cael ei archwilio gan y Senedd a'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig.

"Gwaith Cynulliad Cymru ydy archwilio gwaith gweinidogion Cymru."