Penodi Wendy Walters yn brif weithredwr Cyngor Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae Wendy Walters wedi cael ei phenodi'n brif weithredwr newydd Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Ms Walters yw cyfarwyddwr adfywio a pholisi'r cyngor ar hyn o bryd, ac mae hi hefyd wedi gweithio fel prif weithredwr cynorthwyol yn ddiweddar.
Bydd hi'n olynu Mark James, wnaeth gyhoeddi ym mis Ionawr y byddai'n gadael y swydd ar ôl bod yn y rôl ers 2002.
Fe fydd y ddau yn cydweithio nes ymddeoliad Mr James ar 9 Mehefin.
Doedd cyfnod Mr James wrth y llyw ddim yn ddi-ffwdan, gydag achos enllib yn erbyn blogiwr yn ogystal â ffrae dros daliadau pensiwn yn cyrraedd y penawdau.
'Anrhydedd'
Mae Ms Walters wedi gweithio ym myd llywodraeth leol ers 16 mlynedd ac mewn swyddi uwch-reoli yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ers mwy na 24 mlynedd.
"Wedi fy ngeni a'm magu yn Sir Gâr, mae'n fraint ac yn anrhydedd i mi gael y cyfle hwn mor agos at fy nghartref, teulu a ffrindiau," meddai.
"Mae'n anrhydedd i mi fy mod wedi ennill hyder y cyngor i arwain fel prif weithredwr newydd, ac rwy'n edrych ymlaen at yr heriau sydd o'n blaenau.
"Fel awdurdod lleol, nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn ofni bod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn fy ngyrru wrth i mi weithio gyda'n tîm ymroddedig o swyddogion ac aelodau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i'n cymunedau a mentrau adfywio cyffrous i greu dyfodol cryf i Sir Gâr."
Ychwanegodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole y bydd Ms Walters yn "brif swyddog cadarnhaol sy'n ysbrydoli".
"Mae'r broses recriwtio tri diwrnod wedi bod yn un heriol sy'n gofyn llawer, ac mae pob ymgeisydd ar y rhestr fer wedi dangos cryfder ac uchelgais," meddai.
"Drwy benodi Wendy rwyf yn hyderus y byddwn yn gwneud hynny, gydag egni o'r newydd a dycnwch i ysgogi ein huchelgeisiau, i ysbrydoli ein gweithlu ac i gyflawni dros ein cymunedau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2019