'Cyfle gwych' am ddyrchafiad i Glwb Pêl-droed Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Waynne Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Waynne Phillips bron i 250 o gemau i Wrecsam

Mae gan Wrecsam "gyfle gwych" i gael dyrchafiad drwy'r gemau ail-gyfle eleni, yn ôl un o gyn-chwaraewyr y clwb.

Drwy orffen yn bedwerydd yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr, mae gan y cochion siawns gwirioneddol o esgyn am y tro cyntaf ers 2008.

Mae'r clwb wedi bod yn y gemau ail-gyfle dair gwaith o'r blaen rhwng 2011-13, ond colli fu'r hanes bob tro, yn fwya' nodedig yn y rownd derfynol yn erbyn Casnewydd.

Eastleigh ydy'r gwrthwynebwyr ar y Cae Ras nos Iau, yn y rownd gogynderfynol.

"I feddwl sut dymor mae hi 'di bod yma ar y Cae Ras, maen nhw wedi gwneud yn wych i gyrraedd y gemau ail-chwarae," meddai Waynne Phillips, chwaraeodd bron i 250 o gemau i'r clwb.

"Bryan Hughes ydy trydydd rheolwr [y tymor]. Daeth Sam Ricketts i mewn, ac roedd pawb yn hyderus mai fo fasa'r dyn i fynd â Wrecsam ymlaen... ond fe wnaethon ni ei golli fo i'r Amwythig.

"Wedyn yr holl drafferth efo [yr ail reolwr] Graham Barrow, wnaeth bara ond saith wythnos.

Ffynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bryan Hughes wrth y llyw fel rheolwr ers 15 gêm

"Daeth Bryan Hughes i mewn, mewn ffordd, i achub tymor Wrecsam. Pymtheg gêm oedd ganddo fo ar ôl.

"O'i gwneud hi mewn i'r gemau ail chwarae, mae 'na gyfle. A dwi'n meddwl bod ganddyn nhw gyfle gwych y tymor yma."

Yr amddiffyn sydd wedi gosod seiliau cadarn i Wrecsam eleni, wrth i'r tîm gadw 26 llechen lân.

Y gyntaf o dair gêm bosib

Mae rhai o sêr y garfan, fel y capten Shaun Pearson a'r golwr Rob Lainton, yn chwarae yn y cefn - ond mae'n bryd i chwaraewyr eraill ddangos eu doniau, yn ôl un o'r cefnogwyr.

"'Da ni'n gobeithio wneith y blaenwyr neu'r chwaraewyr canol cae sgorio hefyd [dros y gemau nesaf]," meddai Alun Roberts, ffotograffydd sydd â thocyn tymor ar y Cae Ras.

"'Da ni wedi bod heb flaenwr sy'n sgorio nifer o goliau y tymor - a 'da ni wedi cael nifer o reolwyr hefyd!

"Mae'r ffeithiau yna'n ei gwneud hi'n anghrediniol, i fi, ein bod ni yn y play-offs."

Y gêm yn erbyn Eastleigh ydy'r gyntaf o dair bosib ar y daith tuag at ddyrchafiad i Adran Dau Cynghrair Lloegr.

Bydd enillwyr y gêm yn chwarae Salford oddi cartref bnawn Sul, ac enillwyr y gêm honno yn mynd i'r rownd derfynol yn Wembley y Sadwrn canlynol.