Cyhoeddi enw dynes gafodd ei lladd yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Lauren Grifftihs

Mae teulu dynes a gafodd ei llofruddio yn ardal Cathays yng Nghaerdydd wedi rhoi teyrnged i'w "merch brydferth oedd llawn bywyd".

Cafodd corff Lauren Griffiths, 21, ei ganfod yn ei chartref mewn fflat ar Stryd Glynrhondda am 18:10 ar 30 Ebrill.

Mae dyn 22 o ardal Wrecsam wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a fyddai wedi bod yn yr ardal ddydd Mawrth.

'Wrth ei bodd â phobl'

"Roedd Lauren yn llawn bywyd," meddai ei theulu, sy'n hanu o ardal Croesoswallt.

"Roedd hi wrth ei bodd yn cael bod yn rhan o deulu mawr ac wrth ei bodd â phobl.

"Cafodd Lauren ei chymryd oddi wrthym ni yn rhy fuan, ac mae 'na wagle mawr ein calonnau ni gyd."

Mae ysgol uwchradd The Marches yng Nghroesoswallt, lle'r oedd Ms Griffiths yn ddisgybl, hefyd wedi talu teyrnged iddi.

Yn ôl eu datganiad, roedd yn "fyfyriwr talentog" ac roedd ei "gallu academaidd a chyfraniad i fywyd yr ysgol gyfan yn ei gwneud yn gaffaeliad" i'r ysgol.

Mae dyn 22 mlwydd oed wedi cael ei arestio a dyw'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw berson arall mewn cysylltiad â marwolaeth Lauren.