Newid byd i gwpl rhaglen realaeth 'The 1900 Island'

  • Cyhoeddwyd
Arwel a KateFfynhonnell y llun, Arwel John a Kate Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dydi byw oddi-ar-y-grid ddim yn ddieithr i Arwel a Kate ac roedd ganddyn nhw gyfrinach tra'n cymryd rhan mewn rhaglen am fywyd ar ynys yn 1900...

Mae nifer ohonon ni'n breuddwydio am ddianc rhag prysurdeb ein bywyd modern ond ydy hi wir yn bosib byw bywyd hunan-gynhaliol fel ein hynafiaid?

Mae Arwel John a Kate Evans, un o'r cyplau sy'n cymryd rhan yn rhaglen realaeth BBC One Wales The 1900 Island wedi eu sbarduno i newid trywydd eu bywydau ar ôl mynd nôl i fywyd syml yr 1900au ar Ynys Llanddwyn.

Roedd Arwel, sy'n gweithio fel gof, eisoes wedi byw oddi-ar-y-grid ers ryw saith mlynedd pan wnaeth gyfarfod Kate, ychydig dros flwyddyn cyn ffilmio'r rhaglen, ac mae'r bywyd yna'n dal i apelio iddo.

Ond roedd gan y ddau hefyd gyfrinach pan aethon nhw i Landdwyn i fyw am fis gyda thri theulu arall - roedden nhw newydd ddarganfod eu bod yn disgwyl eu plentyn cyntaf.

Mae profi bywyd syml yr ynys a pharatoi at ddyfodiad eu plentyn ym mis Mai 2019 wedi eu hysgogi i symud o Abertawe i fyw yn y wlad ar fferm deuluol Arwel yn Sir Benfro.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kate newydd ddarganfod ei bod yn feichiog pan gyrhaeddodd set The 1900 Island

"Dau ddiwrnod cyn mynd ar yr ynys ffeindion ni mas bod ni'n disgwyl so oedd hwnna i gyd i ryw raddau wedi ei roi on hold tra roedden ni ar yr ynys," meddai Kate, cyn-ddarlithydd ac athrawes Daearyddiaeth llawn-amser sydd bellach yn cynnal cyrsiau dysgu crochenwaith.

"Roedd popeth jyst bach yn 'ffyni' inni ar y pryd. Dwi'n gallu gweld o rai o'r scenes wi'n edrych yn flinedig iawn yn y cefndir a wi'n gwybod pam nawr ond ar y pryd oedd trio cwato hwnna'n anodd.

"A'r pethe ma' nhw'n dweud wrthoch chi i beidio bwyta? Shellfish. A cario pwysau hefyd - a dyna'n union beth oedd raid i fi wneud! Cario pwysau a bwyta shellfish!" meddai Kate oedd yn hel cocos a chregyn gleision gyda'r menywod eraill ar yr ynys ac yn cario sachau trwm ohonyn nhw am filltiroedd nôl i'r tŷ.

Gan ei bod hi mor gynnar yn y beichiogrwydd, fe benderfynon nhw beidio datgelu hynny ar y rhaglen er bod rhai o'r cast a'r criw yn gwybod erbyn y diwedd.

"Mae wedi bod yn rhan o'r penderfyniad i ail-leoli o Abertawe nôl i fferm teuluol cartref Arwel yn Sir Benfro," meddai Kate.

"Roedd e'n rhywbeth o'n ni'n meddwl gwneud anyway ond mewn ffordd roedd byw ar yr ynys wedi cadarnhau bod e'n rhywbeth y gallen ni ei wneud gyda'n gilydd.

"Mae lot o'r egwyddorion o'r ynys yn bethau fyddwn ni'n cymryd i ffwrdd - y meddylfryd o beth y'n i'n trio 'neud."

Byw oddi-ar-y-grid

Yn y rhaglen, mae pedwar teulu yn byw heb drydan mewn bythynnod bach ar Ynys Llanddwyn ac yn dibynnu ar lo, canhwyllau a llusernau am wres a golau, a bwyd môr, wyau a chynnyrch y siop fach leol am fwyd.

Roedd y tywydd stormus gawson nhw'n golygu nad oedd hi'n bosib pysgota cymaint ag roedden nhw wedi ei obeithio.

Ac fe welwn ni fod sgiliau ymarferol Arwel fel gof yn creu ychydig o densiwn yn y bennod gyntaf wrth iddo gael gwaith yn helpu adeiladwr cychod, sy'n golygu nad yw'n treulio gymaint o amser gyda gweddill y gymuned ac yn cael ffafrau fel bwyd ychwanegol am ei waith.

Ond mae wedi arfer byw yn ddiwastraff tra'n byw mewn cymuned oddi-ar-y-grid ym Mhenrhyn Gŵyr, lle sy'n dal yn agos at ei galon.

"Doedd dim trydan yna o gwbl a dros yr amser nes i fyw yna wnes i roi 12 volt system, solar panels a wind trubines i mewn a compost toilets hefyd," meddai.

"Doedd dim gwres yna hyd yn oed pan symudes i mewn, so gweithies i dân fy hunan a datblygu'r lle i beth yw e nawr.

"O ran bwyd, doedd dim ffrij na freezer gyda fi so oedd rhaid cadw popeth tu fas yn y gaeaf.

"Roedd 'da fi ryw fath o terracota pots gyda tywod a phethau ynddyn nhw i gadw pethau'n oer yn yr haf."

Roedd yn prynu bwyd yn y farchnad neu archfarchnad ond hefyd yn cael rhywfaint o lysiau a wyau gan ei gyflogwr oedd yn tyfu rhywfaint o fwyd ei hunan, a byddai'n hela am gig weithiau.

"Fi'n dal i hiraethu am fyw off-grid rili - mae'n lot mwy hwylus i fyw off y tir nag ydy e yn dre," meddai Arwel.

"Mewn ffordd roedd yr ynys yn ffordd i fi gael mewnolwg i'r agwedd hynny o fywyd Arwel hefyd," meddai Kate.

Felly, oedd yr hen ffordd o fyw, symlach ac arafach yn well neu'n waeth?

"Gwahanol yn hytrach na gwell neu gwaeth yw e," meddai Arwel.

"Bydden i'n ddigon rhwydd wedi aros 'na am gweddill bywyd fi a byw yn yr un ffordd.

"Ond doedd dim NHS 'da ni, doedd dim pethau modern sydd yn dda - os oedd eisiau cadw'r pysgod am ddeuddydd ecstra cyn mynd off i'r farchnad i'w gwerthu nhw - fydde'r pysgod yn pydru.

"Peth arall am fywyd modern yw pa mor wastraffus ydyn ni nawr - effaith plastig yw'r un amlwg."

Doedd dim plastig ar gyfyl nwyddau 1900au yr ynys.

"Unwaith o'n i off yr ynys oedd jyst trio ffeindio letusen oedd ddim di cael ei lapio mewn plastig yn amhosib," ychwanegodd Kate. "Cnau coco wedi eu lapio mewn plastig - mae fe'n boncyrs nawr, ni wedi mynd yn llwyr fel arall.

"Roedd popeth roeddech chi'n cymryd yn ganiataol fel quick jobs fel berwi tegell a golchi lan gymaint mwy llafurus.

"Roedd rhaid gweithio'n galed. Ond roedd yr intensity yn wahanol i weithio mewn swydd bob dydd yn ennill arian er mwyn talu trethi er mwy gwneud y pethau yna."

Baich gwahanol i fywyd modern

Roedd y baich yn un gwahanol i fywyd modern, meddai Kate.

"A dyma'n union pam adawes i academia yn llawn-amser yn y lle cyntaf i ddechrau swydd yn dysgu crochenwaith i bobl," meddai Kate.

"O'n i mo'yn dysgu pobl jyst er mwyn y boddhad a'r gwerthfawrogiad o ddysgu a gwneud pethau newydd a tynnu'r holl arholi, a'r beichiau a'r disgwyliadau allanol allan o'r peth.

"A dyna'n union beth oedden ni'n ei wneud ar yr ynys. Doedd dim beirniadaeth o beth oedden ni'n 'neud. Os nag oeddech chi'n coginio, o'ch chi'n llwgu; os nag o'ch chi'n neud y golchi lan... doedd dim modd osgoi pethe.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhaglen yn dilyn hynt pedwar teulu sy'n breuddwydio am ddianc rhag y byd modern i fyw fel cymuned bysgota yn 1900 ar Ynys Llanddwyn

"Ond eto, oedd ddim y disgwyliadau allanol efallai a'r ffaith bod angen gwneud rhywbeth i hawlio cyflog allanol ar ddiwedd y mis, oedd dim prejudice, a mae hwnna yn ei hunan yn bwysau oddi ar fy meddwl i rili - o'n i'n dwli ar yr elfen yna."

Mae'r ddau'n gobeithio gallu cadw ychydig o anifeiliaid ac efallai tyfu rhywfaint o gnydau ar eu fferm ond y nod yw cadw'r ôl troed carbon yn isel a rhoi bywyd agosach at natur i'w plant.

"Mae angen inni newid ein bywydau a'n ffordd o fyw. Ond y realiti yw bod y strwythurau sydd wedi cynyddu ac adeiladu o'n cwmpas ni fel cymdeithas yn gwneud hynny yn anodd hefyd - mae neidio off y treadmill yn anodd.

"Mae'r protestiadau diweddar yn dangos hynny, y broblem yw creu'r amodau lle gallai'r newid yna fod yn rhywbeth pwrpasol, hirdymor a digon eang i wneud y gwahaniaeth sydd angen."

Hefyd o ddiddordeb: