Digartrefedd: 'Mae pêl-droed wedi newid fy mywyd'

  • Cyhoeddwyd
Michael Sheen
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Michael Sheen helpu tîm merched i ddathlu ar ôl ennill tlws yng Nghwpan y Byd i'r Digartref yn 2017

"Pan oeddwn i yn y carchar fyddwn i erioed wedi meddwl am chwarae pêl-droed, ond mae wedi newid fy mywyd."

Mae Dee Sansome wedi bod yn gaeth i heroin, treulio amser dan glo a byw ar y stryd am bedair blynedd.

Ond mae hi'n mynnu bod cael ei dewis i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd i'r Digartref wedi trawsnewid ei bywyd am byth.

"Fe wnaeth hynny fy helpu i ddechrau cyflawni pethau a chredu yn fy hun," meddai.

Mae Caerdydd yn croesawu'r gystadleuaeth ym mis Gorffennaf, pan fydd 500 o chwaraewyr yn cynrychioli 50 o wledydd.

Mae'r trefnwyr yn dweud eu bod eisiau defnyddio'r gystadleuaeth i greu cyfleoedd i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ddigartrefedd.

'Yn dy freuddwydion'

Cafodd y cais llwyddiannus i gynnal y gystadleuaeth ei arwain gan yr actor Michael Sheen, ac mae Dee - sy'n 38 oed ac o Gasnewydd - nawr yn ei ystyried fel ffrind.

"Pe byddech chi wedi dweud wrtha' i yn y carchar y byddai'n siarad ar y teledu am gynrychioli fy ngwlad a bod yn ffrindiau gyda Michael Sheen fe fydden i wedi dweud 'yn dy freuddwydion'," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dee Sansome wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol bellach

Ar ôl cael ei cham-drin fel plentyn, roedd Dee yn gaeth i heroin erbyn diwedd ei harddegau.

Wedi iddi droi at dwyllo pobl er mwyn ariannu hynny, roedd hi yn y carchar erbyn dechrau ei 20au.

Pan gafodd ei rhyddhau ar ôl treulio ail gyfnod dan glo, doedd ganddi unman i fynd, ac roedd hi'n ddigartref am bedair blynedd ar ôl hynny.

'Mae'n newid rhywun'

Ond fe ddechreuodd pethau newid wedi i ffrind annog Dee i ymuno ag elusen Pêl-droed Stryd Cymru.

Maen nhw'n gweithio gyda phobl sydd wedi bod yn ddigartref neu'n brwydro â chyffuriau neu alcohol, yn rhoi cyfle iddyn nhw adeiladu hyder trwy chwarae'r gêm.

Cyn hir roedd Dee wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ac fe gafodd ei dewis i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd i'r Digartref.

Mae bywyd Dee yn wahanol iawn bellach - mae hi wedi symud i fflat ei hun ac yn paratoi i agor busnes golchi ceir yng Nghasnewydd fydd yn cyflogi cyn-droseddwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cais llwyddiannus Caerdydd i gynnal y gystadleuaeth ei arwain gan Michael Sheen

Mae Sheen wedi gweld yr effaith mae grwpiau fel Pêl-droed Stryd Cymru a Chwpan y Byd i'r Digartref yn ei gael.

"Mae gweld rhywun sydd wedi teithio allan o Gymry am y tro cyntaf, does dim ots os mai Gareth Bale ydych chi neu rywun sy'n byw mewn pabell ar y stryd, yn rhoi'r crys yna 'mlaen a chynrychioli eu gwlad - mae hynny'n newid rhywun," meddai.

'Newid meddyliau pobl'

Fe wnaeth Keri Harris sefydlu Pêl-droed Stryd Cymru yn 2003, ac erbyn heddiw mae 30 tîm o bobl sydd wedi profi digartrefedd yn chwarae'n gyson ledled y wlad.

Mae wedi mynd â thîm o Gymru i bob Cwpan y Byd i'r Digartref, a dywedodd y bydd cynnal y gystadleuaeth yng Nghaerdydd yn "anhygoel i bawb sy'n rhan ohono".

"Mae'n mynd i newid meddyliau pobl sy'n dod i weld y twrnament, a bydd chwarae o flaen torf o Gymry yn wych," meddai.