Llinell gymorth i daclo 'epidemig cudd' digartrefedd ifanc

  • Cyhoeddwyd
Cameron

Mae "epidemig cudd" o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, yn ôl elusen sydd wedi sefydlu llinell gymorth genedlaethol gyntaf Cymru.

Mae'r llinell gymorth y tu allan i oriau swyddfa arferol - cynllun elusen Llamau - wedi derbyn cefnogaeth gan yr actor Michael Sheen.

Yn ôl yr elusen, y bwriad ydy bod pobl ifanc all fod yn ddigartref yn gwybod bod rhywle iddyn nhw gael cymorth.

Dywedodd un oedd yn ddigartref pan yn 14 oed ei fod yn teimlo bod "popeth yn cwympo i ddarnau" ar y pryd, ond bod cymorth wedi ei alluogi i drawsnewid ei fywyd.

'Colli popeth'

Pobl ar y strydoedd yw'r arwydd mwyaf amlwg o ddigartrefedd, ond mae Llamau yn dweud bod nifer y bobl sy'n ddigartref yn debygol o fod yn llawer uwch - gyda llawer ohonynt yn ifanc.

Roedd rhaid i Cameron, nid ei enw iawn, adael ei gartref pan yn 14 ar ôl i'w berthynas gyda'i deulu chwalu.

Bu'n aros gyda ffrindiau am gyfnod, ac roedd rhaid iddo dreulio un noson ar y strydoedd.

"Roedd e'n anodd iawn, doedd ysgol ddim yn mynd yn dda, ro'n i angen mynd [i fyw] 'efo ffrindiau fi, roedd popeth yn cwympo i ddarnau really...

"O'n i ddim yn gwybod beth i g'neud 'efo bywyd a phethau fel'na. Ac o'n i'n teimlo bod fi'n colli popeth sy'n agos i fi."

Ychwanegodd: "Roedd e'n anodd i feddwl yn syth, oherwydd o'n i'n trio g'neud ysgol a cael bywyd tu fas i ysgol hefyd, a roedd llawer yn mynd ymlaen a phopeth tu mewn pen fi ddim yn gweithio'n iawn..."

Mae pobl ifanc sy'n ddigartref yn fwy tebygol o adael addysg, golli swydd neu fynd i drwbl gyda'r heddlu.

Ond bellach mae Cameron wedi cael lle i fyw, ac mae'n gobeithio mynd i'r brifysgol.

"Mae Llamau wedi helpu llawer... mae pobl sy'n gweithio yma wedi helpu fi goginio a 'efo arian a phethau fel 'na, a yn y pum mis dwi wedi bod yma maen nhw wedi newid fy mywyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Frances Beecher bod gan lawer o bobl ifanc ddim syniad o ble i droi os ydyn nhw'n colli eu cartref

Mae'r llinell gymorth wedi ei hariannu gan roddion, cymdeithas adeiladu Nationwide a BT.

Hyd yn hyn mae dros £90,000 wedi ei gasglu - sy'n ddigon i gynnal y gwasanaeth am flwyddyn.

Codi ymwybyddiaeth

Dywedodd Prif Weithredwr Llamau, Frances Beecher, bod y rhan fwyaf o bobl ifanc sy'n ddigartref yn teimlo ar goll.

"Mae wir yn epidemig cudd, a'r hyn sydd mor frawychus ydy bod gan 76% o bobl ifanc digartref ddim syniad ble i droi.

"Mae'r llinell gymorth yn ceisio gwneud dau beth, un ydy ymateb i'r hyn mae pobl ifanc wedi gofyn amdano - sef llinell gymorth yng Nghymru - ac yn ail i godi ymwybyddiaeth o beth ydy digartrefedd ymhlith yr ifanc."