'Tro pedol' Cyngor Môn dros ad-drefnu ysgolion
- Cyhoeddwyd
Fe allai pwyllgor gwaith Cyngor Ynys Môn ddileu penderfyniad i gau tair ysgol gynradd fis nesaf yn sgil pryderon dros y broses ymgynghori.
Mae swyddogion cyngor yn argymell diddymu penderfyniadau blaenorol yn ymwneud ag ad-drefnu addysg yn wardiau Llangefni a Seiriol.
Byddai hynny'n effeithio ar gynlluniau i gau'r ysgolion cynradd ym Modffordd, Biwmares a Thalwrn, a chodi ysgol newydd yn Llangefni.
Bydd y pwyllgor gwaith yn trafod yr argymhelliad ar 20 Mai ond mae Cymdeithas yr Iaith, fu'n ymgyrchu yn erbyn cau Ysgol Bodffordd, wedi croesawu'r cyhoeddiad gan ei ddisgrifio fel "tro pedol".
Fe benderfynodd y cyngor ym mis Rhagfyr i gau'r ysgol ym Modffordd ynghyd ag Ysgol Corn Hir, Llangefni, a chodi ysgol gynradd newydd ar gyfer 360 o ddisgyblion yn y dref.
Ym mis Gorffennaf, fe benderfynwyd cau Ysgol Gynradd Biwmares ac adnewyddu Ysgol Llandegfan ac Ysgol Llangoed, ac i gau Ysgol Talwrn gan symud disgyblion i Ysgol y Graig yn Llangefni.
Ond mae'r cynlluniau hynny bellach yn y fantol unwaith eto wedi i "adolygiad mewnol diweddar o'r broses ymgynghori statudol amlygu pryderon am gydymffurfiad gyda Chod Trefniadaeth Ysgolion (Llywodraeth Cymru) 2013".
Fis diwethaf fe wnaeth y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams gadarnhau bod ei swyddogion am gynnal ymchwiliad i'r ffordd y penderfynodd y cyngor i gau Ysgol Bodffordd wedi cwyn ffurfiol gan Gymdeithas yr Iaith, llywodraethwyr yr ysgol a nifer o rieni.
Roedden nhw'n dadlau bod y cyngor heb archwilio posibiliadau eraill nac ystyried effaith cau'r ysgol ar y gymuned, gan fethu ag ystyried canllawiau newydd y llywodraeth sy'n rhagdybio o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor.
Dywedodd y cyngor ddydd Gwener: "Os yw aelodau'r pwyllgor gwaith yn cytuno i ddiddymu penderfyniadau blaenorol, byddai unrhyw broses ymgynghori statudol newydd, yn gysylltiedig ag ardaloedd Llangefni a Seiriol, yn dilyn anghenion y Cod Trefniadaeth Ysgolion newydd, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018."
Os fydd y cynlluniau yn cael eu diddymu, mae proses ymgynghori newydd yn debygol o gymryd fisoedd lawer.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod y broses hyd yma o geisio mynd i'r afael â llefydd gwag yn ysgolion yr ynys "wedi bod yn un heriol ac wedi golygu penderfyniadau anodd".
'Newyddion gwych'
Gan longyfarch rhieni ac ymgyrchwyr lleol am "achub" Ysgol Bodffordd, dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith bod "y penderfyniad i beidio â chau'r ysgol yn newyddion gwych i'r gymuned leol".
"Rydyn ni'n annog Cyngor Môn i fynd ati nawr i drafod yn gadarnhaol gyda'r rhieni a'r gymuned er mwyn datblygu'r ysgol," meddai.
"Mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams hefyd yn haeddu canmoliaeth am gytuno i gynnal ymchwiliad sydd wedi arwain at y tro pedol.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld union fanylion penderfyniad y cyngor yn fuan.
"Gobeithio bod hyn yn arwydd clir i awdurdodau ledled Cymru bod angen iddyn nhw gymryd y cod newydd, a'r rhagdybiaeth o blaid cadw ysgolion bychain yn agored, o ddifrif."
Yn ôl Heulwen Roberts, aelod o'r ymgyrch i gadw Ysgol Talwrn ar agor, fe fydd yna ansicrwydd eto fyth i rieni os fydd angen ymgynghori o'r newydd.
"I raddau helaeth, mae'n destun embaras i'r cyngor ddechra' o'r dechra' ac mae'n rhaid i chi ofyn a ddylai rhywun ymddiswyddo o gownt hyn," meddai.
"Rydan ni rŵan yn wynebu misoedd o orfod mynd trwy'r broses yma eto a'r gofid fydd yn cael ei achosi i bawb, ond fyddan ni'n dal i frwydro."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd4 Awst 2018