Apêl i godi £80,000 i drwsio to Hen Gapel John Hughes
- Cyhoeddwyd
Mae apêl wedi'i lansio i godi £80,000 tuag at y gost o drwsio to Hen Gapel John Hughes ym Mhontrobert ym Maldwyn, sy'n cael ei gysylltu'n agos â'r emynydd Ann Griffiths.
Roedd Ms Griffiths yn mynychu'r capel i addoli gyda'r parchedig John Hughes o 1800 nes ei marwolaeth yn 1805.
Dywedodd ceidwad yr hen gapel, Nia Rhosier: "Ruth oedd gwraig John Hughes a hi oedd morwyn Dolwar Fach - cartref Ann Griffiths yn Nolanog - ac roedd y ddwy fel chwiorydd.
"Roedd Ann yn swil iawn ac roedd hi'n tueddu i adrodd ei hemynau i Ruth, oedd yn anllythrennog ond â chof rhyfeddol.
"Mi gofiodd hi'r geiriau a'u hadrodd nhw i John Hughes, oedd wedyn yn eu cofnodi a gweithio efo Thomas Charles."
Ond rŵan mae problem gyda rhan o do Hen Gapel John Hughes, gyda dŵr yn llifo mewn.
Mae Ms Rhosier wedi bod yn gorfod gosod bwcedi i ddal y dŵr sy'n dripian drwy'r to.
"Mae'r to wedi bod yn gollwng ers rhai blynyddoedd," meddai.
"Dwi'n gosod bwcedi ar lawr i ddal y dŵr ac yn gorfod dod mewn bob dydd.
"Dydy o ddim yn dod mewn trwy'r un lle bob tro felly dwi'n gorfod symud y bwcedi yn ôl y galw."
Mae apêl i bobl o bob rhan o Gymru i dalu £10 am lechen i drwsio'r to.
Mae angen codi £80,000 tuag at gost o ryw £120,000 i gyd. Ar ôl codi'r swm hynny maen nhw'n gobeithio cael gweddill yr arian mewn grantiau gan Cadw a'r Loteri.
Dywedodd Trysorydd Mygedol yr hen gapel, Beryl Vaughan: "Ddaru ni benderfynu fel pwyllgor fase ni'n cael rhywun i brynu llechen am £10 a 'da ni'n gobeithio'n wir y daw'r arian i mewn achos os na wnawn ni warchod yr hen gapel i'r cenhedloedd i ddod, druan ohonom ni, fydd na ddim byd yma.
"Mae cartref John Hughes mor bwysig - hebddo fo a Ruth fase 'na ddim emynau Ann Griffiths.
"Mae 'na rywbeth yn ganadwy iawn ynddyn nhw ac mae'r geiriau'n wefreiddiol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018