Cynnal angladd Carson Price yn Sir Caerffili

  • Cyhoeddwyd
galarwyr
Disgrifiad o’r llun,

Galarwyr y tu allan i eglwys Sant Catwg

Mae angladd bachgen ysgol 13 oed y cafwyd hyd iddo yn anymwybodol mewn parc, wedi ei gynnal yng Ngelli-gaer, Sir Caerffili.

Mae'r heddlu wedi bod yn ymchwilio i gysylltiadau cyffuriau yn achos Carson Price o Hengoed.

Roedd e'n "anymwybodol, yn welw ac yn ysgwyd" pan ddaeth y gwasanaethau brys o hyd iddo ym Mharc Ystrad Mynach ar 12 Ebrill.

Dirywiodd ei gyflwr yn gyflym yn yr ysbyty a bu farw yn ddiweddarach.

Cafodd y gwasanaeth angladd ei gynnal yn Eglwys Sant Catwg.

Clywodd cwest agoriadol i'w farwolaeth ei bod yn bosib ei fod wedi cymryd cyffuriau cyn cael ei daro'n yn anymwybodol.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn ymchwiliio i gysylltiadau cyffuriau yn achos marwolaeth Carson Price

Mewn gwylnos gafodd ei gynnal chwe diwrnod ar ôl ei farwolaeth dywedodd ei deulu mewn datganiad bod eu bywydau wedi cael eu "trawsnewid yn llwyr".

Fe wnaethant ei ddisgrifio fel "bachgen direidus ac yn frawd mawr arbennig."

Ychwanegodd y datganiad: "Mae meddwl am deulu arall yn cael yr un profiad yn annioddefol. Rydyn ni'n annog pobl i drafod y canlyniadau ofnadwy gall gyffuriau gael ar fywydau.

"Rhieni, plîs siaradwch gyda'ch plant, neu os ydych chi'n ifanc ac angen cymorth, cofiwch fod yno help ar gael."