Dim cartref parhaol am dros 1,000 diwrnod
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn treulio hyd at dair blynedd mewn llety dros-dro er mwyn osgoi digartrefedd, yn ôl ffigyrau awdurdodau lleol Cymru.
Mae rhaglen BBC Wales Live wedi darganfod bod 4,000 o bobl wedi cael eu rhoi mewn llety dros-dro yng Nghymru yn 2017-18, ar gost o £9,961,586.
O'r 17 awdurdod lleol wnaeth ymateb i gais BBC Wales Live, roedd tri ohonyn nhw ag enghreifftiau lle'r oedd pobl wedi bod heb gartre parhaol am dros 1,000 o ddiwrnodau.
Ar draws Cymru, y cyfartaledd yw 74 diwrnod - a thraean o'r bobl yn cael eu rhoi mewn llety gwely a brecwast.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n gweithio i leihau'r angen am lety dros-dro trwy atal digartrefedd a chynyddu'r nifer o gartrefi cymdeithasol, fforddiadwy sydd ar gael.
Ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n dweud bod awdurdodau yng Nghymru yn datblygu tai cyngor newydd am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer.
Yn ôl Deddf Tai Cymru, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddarparu llety ar gyfer rheiny sydd yn, neu a bygythiad o fod yn, ddigartref - ond does dim rheol ynglŷn â pha mor hir all bobl gael eu cadw mewn llety dros dro.
Mae rhaglen BBC Wales Live wedi siarad ag un teulu o'r gogledd sydd wedi bod mewn llety dros dro ers haf 2017, pan benderfynodd eu landlord preifat werthu eu tŷ, a'u gadael mewn perygl o fod yn ddigartref.
'Dwi eisiau tŷ go iawn'
Am y chwe mis cyntaf, cafodd y teulu eu rhoi mewn gwestai, llety gwely a brecwast a charafannau, cyn cael eu rhoi mewn tŷ yn Rhagfyr 2017 - ond gyda chytundeb dros-dro sy'n golygu y gallai'r cyngor eu symud ymlaen gyda mis o rybudd.
Dwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r tad yn dweud ei fod e, ei wraig, a'i blant yn ddiolchgar o gael to dros eu pennau, ond bod natur dros-dro y cytundeb yn achosi pryder.
"Dy'ch chi'n methu setlo, na dadbacio, gallwch chi ddim - dy'ch chi jyst ddim yn gwybod pryd fyddwch chi'n cael eich gyrru o 'ma. Gallech chi fod yma am dair blynedd arall neu allech chi fod yma am ddyddiau yn unig, dy'ch chi ddim yn gwybod.
"Ry'n ni eisiau setlo yma, ni'n gwirioni ar y lle, ond allwn ni ddim. Mae'n hynod o annheg."
Mae ei ferch, sydd yn ei harddegau, yn dweud ei bod hithau yn teimlo'r ansicrwydd.
"Mae mor anodd. Dwi eisiau tŷ go iawn, lle allwn ni fod yn deulu normal a bod yn ni ein hunain eto a bod yr holl broblemau yma yn diflannu - nid dim ond i'n teulu ni ond i bob teulu."
O'r 17 awdurdod lleol wnaeth ymateb i gais BBC Wales Live, roedd tri ag enghreifftiau lle'r oedd pobl wedi treulio dros 1,000 o ddiwrnodau mewn llety dros-dro - Caerdydd (1,119 diwrnod), Sir Ddinbych (1,183 diwrnod) a Gwynedd (1,020 diwrnod).
O blith yr awdurdodau lleol â'r cyfartaledd hiraf i'r rheiny mewn llety dros-dro oedd Caerdydd, gyda phobl yn treulio 211 diwrnod, rhyw saith mis, heb gartre parhaol.
Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad yn deillio o'i hadolygiad annibynnol i dai fforddiadwy, sy'n argymell cynllun rhentu pum mlynedd i awdurdodau lleol, ac adeiladu rhagor o dai fforddiadwy. Mae disgwyl nawr i'r Llywodraeth ymateb i'r argymhellion hyn.
Yn ôl Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru, mae'r adolygiad i'w groesawu, ond bod angen atebion mor gynted â phosib.
"Ar hyn o bryd mae pobl wedi'u caethiwo i lety dros-dro am nad oes llety fforddiadwy iddyn nhw symud i mewn iddyn nhw," meddai.
"Mae angen i ni adeiladu mwy o dai cymdeithasol fel bod mwy o lety cymdeithasol, ac mae angen i ni edrych eto ar ddiwygio'r system les gan ei fod yn prisio pobl allan o'r farchnad."
Roedd Kath Jones o Frynmawr ym Mlaenau Gwent mewn sefyllfa debyg hyd at Ionawr eleni. Wedi magwraeth anodd a phroblemau iechyd meddwl dwys, yn ei hugeiniau hwyr roedd hi mewn perygl gwirioneddol o fod yn ddigartref.
Am y tair blynedd wedyn fe fu'n mynd o un llety dros-dro i'r llall.
"Fe ges i fy rhoi mewn llety gwely a brecwast ym Merthyr Tudful a Chwmtyleri, wedyn hostel i'r digartref yn Nhredegar, a wedyn tŷ un ystafell wely ym Mrynmawr.
"Do'n i ddim yn teimlo'n ddiogel. Gallen nhw gnocio ar fy nrws ar unrhyw adeg a dweud 'cer o 'ma'.
"I fod yn onest, do'n i ddim eisiau bod yn fyw."
Yn ôl Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi "ymroi i leihau ar ddefnydd llety dros-dro gan ganolbwyntio ar atal digartrefedd ac ail-gatrefi pobl mor sydyn â phosib trwy amrywiol ffyrdd."
"Mae'r rhain yn cynnwys rhaglen Housing First, sy'n darparu tenantiaeth a chartref eu hunain i bobl ac yn cynnig cefnogaeth i'w helpu i gynnal y denantiaeth yna.
"Rydyn ni hefyd yn cynyddu'r nifer o dai cymdeithasol safonol a fforddiadwy sydd ar gael trwy'n buddsoddiad ni o £1.7bn, sy'n anelu i ddelifro 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod y tymor hwn o'r Cynulliad."
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru mae yna "gyflenwad sylweddol o dai fforddiadwy ar draws y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru" a bod awdurdodau lleol mewn sawl ardal bellach yn "datblygu tai cyngor newydd am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer. "
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2018