Cyngor Gwynedd i ddileu tair swydd gwerth £200,000
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun Cyngor Gwynedd i ddileu tair swydd er mwyn arbed dros £200,000 y flwyddyn wedi cael ei gymeradwyo.
Yn dilyn cyfarfod o aelodau'r cabinet ddydd Mawrth, cafodd yr adroddiad ei dderbyn fel rhan o ymdrechion yr awdurdod lleol i arbed arian.
Roedd yr adroddiad yn argymell lleihau'r nifer o swyddi uwch-swyddogion o 40 i 37 - gan arwain at arbedion blynyddol o tua £211,000.
Dywedodd y cynghorydd Cemlyn Williams bod y cynllun "yn gyrru'r neges gywir i'r trethdalwyr".
Cafodd yr adroddiad - oedd yn adolygu'r strwythur staffio - ei gomisiynu ym mis Mai fel rhan o ymdrechion y cyngor i wneud toriadau o £17.5m dros y tair blynedd nesaf.
Fe benderfynodd aelodau'r cabinet ddileu tair yn hytrach na phedair swydd, gyda swydd rheoli o fewn Ymgynghoriaeth Gwynedd yn parhau.
Roedd pryderon y byddai cael gwared â'r swydd yma yn effeithio ar wasanaethau sy'n cynhyrchu elw i'r awdurdod.
'Pell o fod yn siop gornel'
Ychwanegodd Mr Williams: "Sylw rydw i'n ei glywed yn aml gan aelodau o'r cyhoedd yw bod yno ormod o uwch-swyddogion ar gyflogau uchel.
"Yn anffodus fe ddaw hyn yn aml yn sgil anwybodaeth, oherwydd fel corff sy'n gwario £430m y flwyddyn ac yn cyflogi 7,000 o bobl, rydyn ni'n bell iawn o fod yn siop gornel ac mae angen sawl rheolwr.
"Ond gyda'r dasg o adolygu'r trefniadau presennol, mewn amser o gynilo, mae'n rhaid i ni sicrhau bod lefelau staff mor isel â phosib."
Mae'r awdurdod hefyd wedi pleidleisio o blaid creu adran tai ac eiddo hefyd er mwyn ceisio rhoi mwy o ffocws ar eu strategaeth tai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2018