Adran Dau: Casnewydd 1-1 Mansfield

  • Cyhoeddwyd
Padraig Amond a Conrad LoganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid i Conrad Logan wneud sawl arbediad gwych i rwystro ymosodwyr Casnewydd

Mae gobeithion Casnewydd o gyrraedd rownd derfynol y gemau ail-gyfle yn Adran Dau yn parhau wedi gêm gyfartal o 1-1 yn erbyn Mansfield yn Rodney Parade.

Dechreuodd y gêm yn agored iawn gyda'r ddau dîm yn creu cyfleoedd yn y munudau cyntaf, ond yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi 12 munud.

Ar ôl ennill y meddiant yn ddwfn yn hanner eu hunain, daeth gwrthymosodiad campus gan Mansfield.

Wrth i Jacob Mellis redeg yn bwrpasol at amddiffyn yr Alltudion, fe lithrodd y bêl i gyfeiriad CJ Hamilton a darodd y bêl i gornel uchaf y rhwyd o ongl dynn.

Daeth Jamile Matt yn agos iawn i unioni'r sgôr gyda pheniad o chwe llath wedi 33 munud, ond fe lwyddodd golwr Mansfiled i wyro'r bêl heibio'r postyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

CJ Hamilton sgoriodd yr unig gôl i Mansfield wedi 12 munud

Bron i Mansfield ddyblu'r fantais tua munud i mewn i'r ail hanner wrth i Joe Day fethu ag arbed ergyd Tyler Walker cyn i amddiffynwyr Casnewydd glirio'r bêl oddi ar y llinell.

Cafodd Padraig Amond gyfle euraidd i ddod a Casnewydd yn gyfartal wedi 50 munud ond roedd Conrad Logan yn gryf yn y gôl i Mansfield unwaith eto.

Ond gyda 10 munud yn weddill fe gafodd Casnewydd gic o'r smotyn ar ôl i Ade Azeez gael ei dynnu lawr gan Logan.

Er i Amond fethu gyda'i ymgais gyntaf, fe wyrodd y bêl yn ôl i gyfeiriad y Gwyddel ac fe darodd y bêl yn gywir i wneud hi'n 1-1.