Cynllun dadleuol yn ateb i broblem digartrefedd Cymru?
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai cynllun dadleuol sy'n cynnig cartrefi parhaol i bobl ddigartref yn datrys y mater yng Nghymru, yn ôl arbenigwr ar ddigartrefedd o'r Ffindir.
Daw'r sylwadau wrth i nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru gynyddu.
Does gan Lywodraeth Cymru ddim "gweledigaeth na ffocws i leihau nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru", yn ôl Juha Kaakinan.
Mae gweinidog tai Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod angen "ad-drefnu'r system" er mwyn dod â digartrefedd i ben.
Wrth i nifer y pebyll ar strydoedd Caerdydd gynyddu, bu rhaglen BBC Wales Investigates yn siarad gyda Del Clarke, sy'n cysgu ar strydoedd y brifddinas.
Tan yn ddiweddar, roedd Mr Clarke, sy'n 40 oed, yn gweithio ac yn rhannu cartref gyda'i bartner a'i fab.
"Fe wnaeth fy mherthynas i dorri lawr rhyw flwyddyn a hanner yn ôl, roeddwn i'n yfed yn drwm, fe ddifethais i bopeth, fe gollais i'n swydd, fy nghartref ac mae gen i fab bach dwi ddim wedi'i weld ers sbel."
Am gyfnod o bum mis, bu'r BBC yn siarad gyda phobl fel Mr Clarke wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i gartrefi parhaol.
Mae ffigyrau'n dangos bod o leiaf 100 o bobl yn cysgu ar strydoedd Caerdydd, a bod 90 o bobl ddigartref wedi marw yng Nghymru rhwng 2013-17.
Er bod 'na gefnogaeth ar gael i bobl sy'n cysgu ar y stryd, gyda llety ychwanegol ar gael yn y gaeaf, dod o hyd i gartrefi parhaol ydy'r frwydr i nifer o bobl ddigartref.
Yn ôl elusennau, maen nhw'n gweld patrwm o bobl sy'n symud yn ôl ac ymlaen o lety dros dro a 'nôl i'r strydoedd.
Un sy'n dweud bod 'na ateb i'r broblem ydy Juha Kaakinan o'r Ffindir.
Mae'n gyfrifol am Housing First, cynllun tai sy'n cynnig cartrefi parhaol i bobl ddigartref.
Does 'na ddim amodau personol, fel gorfod rhoi'r gorau i alcohol neu gyffuriau, ond mae 'na gymorth dwys diderfyn ar gael.
Mae'r cynllun wedi bod yn un dadleuol, ond mae gwlâu dros dro Helsinki wedi gostwng o 600 i 52, gyda'r nifer sy'n cysgu ar y stryd mwy neu lai yn diflannu.
'Rhwystredig'
Mae 'na sawl peilot tebyg i Housing First yn cael eu rhedeg yng Nghymru, ond dyw Mr Kaakinan ddim yn deall pam bod y llywodraeth yn oedi cyn cynnig y gwasanaeth i bawb sydd ei angen.
"Mae'n rhwystredig gan fod tystiolaeth yn dangos mai cynnig cartrefi parhaol yw'r ffordd ymlaen," meddai.
"Ges i sgwrs gyda rhywun o Lywodraeth Cymru tra o'n i yma 'chydig flynyddoedd yn ôl - ac fe ddywedon nhw eu bod nhw yn derbyn y syniad o Housing First.
"Felly pam eu bod nhw dal heb fabwysiadu'r cynllun fel polisi cenedlaethol?"
Gyda disgwyliad oes pobl sy'n byw ar y stryd yn amrywio o 47 i ddynion, a 43 oed i ferched, mae 'na alw ar y llywodraeth i fynd i'r afael â'r broblem.
Mae'r AC Julie James yn cyfaddef nad yw'r "sefyllfa bresennol yn dderbyniol".
"Mae'n amlwg ein bod ni angen ad-drefnu'r system fel ein bod ni ddim yn gweld pobl yn cysgu ar strydoedd Caerdydd," meddai.
Ychwanegodd eu bod nhw'n ystyried cynllun Housing First, a bod peilot mewn lle.
"Ond pryd chi'n ceisio newid rhywbeth, dyw e ddim yn mynd i ddigwydd wrth glicio'r bysedd, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cynllun yn gweithio gyntaf."
Living Rough: Life on the Streets, BBC Wales Investigates ar BBC One Wales 20:30 Llun 13 Mai
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018