CBDC yn cyhuddo cefnogwyr Cefn Albion o ymddygiad hiliol

  • Cyhoeddwyd
Y gêmFfynhonnell y llun, Michael James
Disgrifiad o’r llun,

Roedd STM Sports yn wynebu Cefn Albion yn rownd gynderfynol Tlws CBDC

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cyhuddo cefnogwyr CPD Cefn Albion o ymddwyn yn hiliol yn ystod gêm yn rownd gynderfynol Tlws CBDC.

Daw'r cyhuddiad yn dilyn ymchwiliad gan y gymdeithas i ddigwyddiadau honedig mewn gêm rhwng Cefn Albion, o Wrecsam, a STM Sports, o Lanrhymni, ar 16 Mawrth.

Yn dilyn y gêm ym Mharc Latham, Casnewydd fe wnaeth dau o chwaraewyr STM Sports ddweud eu bod nhw wedi cael eu cam-drin gan gefnogwyr y gwrthwynebwyr.

Mae CBDC wedi cyhuddo Cefn Albion o ymddygiad hiliol honedig gan eu cefnogwyr, methu a rhwystro eu cefnogwyr rhag mynd ar y cae, a methu a rhwystro eu cefnogwyr rhag ymddwyn yn dreisgar neu'n fygythiol.

Mae STM Sports hefyd wedi eu cyhuddo o fethu a rhwystro eu cefnogwyr rhag ymddwyn yn dreisgar neu'n fygythiol.

Mae gan y ddau glwb saith niwrnod i ymateb i'r cyhuddiadau cyn eu bod nhw'n mynd ger bron panel disgyblu.