Cwestiynau am Fargen Ddinesig Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Llanelli wellness centre artist's impressionFfynhonnell y llun, Hywel Dda/Arch
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cynlluniau ar gyfer y pentref eu cyhoeddi ddwy flynedd yn ôl

Fe allai'r anghydfod ynglŷn â phrif brosiect Bargen Ddinesig Abertawe achosi "diffyg hyder", yn ôl adolygiad annibynnol.

Bwriad y pentref llesiant yn Llanelli yw cyfuno adnoddau chwaraeon ag ymchwil gwyddonol.

Mae pump aelod o staff wedi cael eu gwahardd tra bod Prifysgol Abertawe yn cynnal ymchwiliad i'r prosiect.

Dywedodd cadeirydd y cyd-bwyllgor ar y fargen ddinesig y bydd y pwyllgor yn ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod nesaf.

Dywed yr adolygiad annibynnol nad oes tystiolaeth hyd yma sy'n tanseilio y sylfeini busnes.

Beth yw'r pentref llesiant?

  • Byddai'n costio £225m ac yn cael ei adeiladu ar dir diwydiannol ger arfordir Llanelli

  • Byddai'n darparu sefydliad prifysgol gwyddorau byw, pentref ymddeol a gofal, parc-eco, canolfan adferiad a 'gwesty lles' a sba

  • Dyma un o brif brosiectau Bargen Ddinesig Abertawe a'r nod yw creu mwy na 9,000 o swyddi ym meysydd technoleg a gwyddoniaeth dros gyfnod o 15 mlynedd

  • Dechreuodd gwaith ar y prosiect yn 2017 ac fe gefnogodd cynllunwyr Cyngor Sir Gâr y prosiect yn Ionawr 2019

Mae'r fargen ddinesig yn cyfuno pedwar cyngor, dwy brifysgol, dau fwrdd iechyd a busnesau preifat, ac mae wedi derbyn cefnogaeth o £241m gan lywodraethau Cymru a'r DU.

Cafodd yr adolygiad gan gwmni ymgynghori Actica ei orchymyn gan lywodraethau Cymru a'r DU er mwyn canfod sut mae'r fargen yn cael ei gweinyddu.

Mae'r adolygiad yn cydnabod bod nifer o faterion rheoli'r fargen ddinesig, gan gynnwys y pentref llesiant, wedi cael cryn flaenoriaeth ac efallai y "cymrith hi gryn amser i adfer hyder y cyhoedd".

Nodwyd hefyd y gallai colli awdurdod lleol fel partner ddifrodi hyder partneriaid preifat.

Yn y cyswllt hwn, meddid, "rhaid dangos cynnydd real ac rydyn yn awgrymu bod y cyfnod cyfnewid e-byst ac adolygu achosion busnes wedi pasio".

Adolygiad mewnol

Yn y cyfamser mae BBC Cymru wedi gweld adolygiad mewnol gan y pedwar cyngor sy'n gysylltiedig â'r fargen. Mae hwnnw'n nodi bod yr ymchwiliad presennol ym Mhrifysgol Abertawe a'r cysylltiadau â'r pentref llesiant yn cael "effaith niweidiol" ac yn "erydu ymddiriedaeth" oddi fewn i bartneriaeth y fargen newydd.

Er hynny mae'r partneriaid - sy'n cynnwys cynghorau siroedd Penfro, Castell-nedd Port Talbot, Caerfyrddin ac Abertawe - yn parhau wedi'u hymrwymo i'r cynllun.

Mae'r adolygiad yn gorffen trwy ddweud bod yna ansicrwydd ynglŷn â chyllido, ac nad oes digon o eglurder yn achosion busnes y prosiectau. Mae hynny, meddid, yn "tanseilio hyder" llywodraethau Cymru a'r DU yn y broses.

Mae'r adroddiad yn nodi bod nifer o faterion wedi'u codi yn sgil gwahardd staff o Brifysgol Abertawe - yn eu plith cysylltiadau busnes unigolion a chwmnïau sydd ynghlwm â'r pentref lles a datgan diddordebau personol.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd canolfan Yr Egin ei hagor yn swyddogol y llynedd

Nododd yr adroddiad y gallai dau brosiect ffynnu a bod eu hachosion busnes yn "bwrpasol".

Y ddau brosiect dan sylw yw canolfan yr Egin yng Nghaerfyrddin, cartref S4C a'r ardal ddigidol gwerth £168.2m yn Abertawe - sy'n cynnwys arena 3,500 sedd.

Wrth ymateb i'r casgliadau, dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, cadeirydd pwyllgor y fargen ddinesig: "Cafodd yr adolygiad hwn ei gynnal ar y cyd ag adolygiad annibynnol llywodraethau Cymru a'r DU a'r nod yw darparu budd economaidd llawn i'r ardal.

"Bydd yr argymhellion yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Economi, Lee Waters ei fod yn croesawu'r adroddiad a'i fod yn rhoi hyder i Lywodraeth Cymru, partneriaid lleol a'r sector breifat "i fuddsoddi yn yr ardal ac i sicrhau twf economaidd a newid".

Ychwanegodd y datganiad ar ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU: "Mae ein hymrwymiad i Fargen Newydd Bae Abertawe yn gryf ac mae'r ddwy lywodraeth yn awyddus i weld cymunedau yn y de orllewin yn elwa o'r fargen. Wrth weithio gyda'n partneriaid rhanbarthol, bydd yr adroddiad hwn yn ein helpu i sicrhau yr uchelgais yma."