Damwain awyren ger Y Fenni
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi cael dihangfa ffodus ar ôl i'w hawyren fechan lanio ar ffordd brysur ger y Fenni yn Sir Fynwy a mynd ar dân.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i "digwyddiad difrifol" ar ffordd ddeuol y A40 rhwng Rhaglan a'r Fenni am 11:00 fore Sul.
Yn ôl llygad-dyst fe wnaeth yr awyren fechan lanio ar y brif ffordd, gan ddod yn agos iawn at gerbydau a oedd yn teithio arni ar y pryd.
Yn ôl gwasanaeth tân y de cafodd tri o deithwyr a oedd ar yr awyren eu trin yn y fan a'r lle am fân anafiadau ac maen nhw bellach wedi cael eu cymryd i'r ysbyty.
Mae'r A40 ynghau ac mae'r heddlu'n apelio ar deithwyr i osgoi'r ardal os yn bosib wrth iddyn nhw ymateb i'r digwyddiad.
Ffwydrad anhygoel
Cafodd nifer o linellau trydan eu taro gan yr awyren wrth iddi ddod i lawr i'r ddaear.
Dywedodd Martin Barnfield wrth BBC Cymru : "Tua 11 o'r gloch bore ma roedden ni'n teithio tuag at y Fenni pan welson ni fwg du trwchus o'n blaenau.
"Ychydig lathenni ymhellach ar hyd y ffordd fe welson ni'r ddamwain.
"Roedd e'n edrych fel awyren fechan a oedd wedi glanio ben i waered ar ochr orllewinol y ffordd fawr.
"Roedd y gwres a'r ffrwydrad yn anhygoel, ac fe gawson ni'n troi yn ôl gan yr heddlu."
Dywedodd Rhodri Jones, sy'n byw rhyw ddwy filltir o'r safle wrth BBC Cymru: "Roeddwn i yn y tŷ pan glywes i sŵn ffrwydrad mawr."
"Yn wreiddiol ro'n ni'n meddwl bod yna ddamwain trên am fod y llinell rheilffordd gerllaw.
"Roedd yna fwg trwchus i'w weld yn amlwg."
Mae adroddiadau hefyd fod yr awyren wedi taro ceblau trydan a bod y rheiny wedi taro yn erbyn trên.
Roedd gohebydd BBC Cymru Fyw, Rhodri Tomos, ar drên a oedd yn teithio o Gaerdydd i Fanceinion pan fu'n rhaid iddo ddod i stop ar frys wrth iddo nesáu at Y Fenni.
"O'n ni ar y trên pan glywson ni sŵn metal yn taro yn erbyn rhywbeth", meddai.
"Daeth y trên i stop yn sydyn, ac yna daeth y gard ar yr uchel seinydd i ddweud bod "awyren fechan wedi taro yn erbyn ceblau pŵer a bod y ceblau wedi taro'r trên.
"Roedd gwynt llosgi ar y trên ac fe fuon ni ar stop am tua chwarter awr."
Yn ôl Network Rail mae oedi o hyd at 40 munud ar wasanaethau ger Y Fenni, a bod y ddamwain wedi achosi oedi ar draws y rhwydwaith trenau yng Nghymru yn gyffredinol.
Nid dyma'r tro cyntaf i'r rhan hon o'r A40 fod ar gau oherwydd damwain awyren. Ym mis Mehefin 2016 cafodd tri o bobl anafiadau ar ôl i awyren fechan lanio ar y ffordd brysur.