Llywodraeth Cymru'n dyblu Cronfa Her yr Economi Sylfaenol
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod Cronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddyblu i £3m.
Nod y Gronfa yw datblygu economi ranbarthol Cymru, er mwyn sicrhau bod ffyniant yn cael ei rannu'n fwy cyfartal ar hyd y wlad.
Bydd yn cynnig hyd at £100,000 ar gyfer prosiectau arbrofol i dreialu pa ffordd sydd orau i'r llywodraeth helpu i feithrin a thyfu sylfeini ein heconomïau lleol.
Wrth gyhoeddi, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y gallai canolbwyntio ar economi sylfaenol "ein helpu i gadw arian mewn cymunedau a chynyddu ffyniant ar hyd Cymru".
Yr economi sylfaenol sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau sylfaenol y mae pawb yn eu defnyddio o ddydd i ddydd.
Mae gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a manwerthwyr ar y stryd fawr i gyd yn rhan o'r economi sylfaenol.
Dywedodd Mr Drakeford: "Mae llawer o'n cymunedau rhanbarthol yn dweud wrthym fod y ffordd y mae'r economi wedi datblygu yn teimlo'n anghymesur iddyn nhw ac maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl.
"Drwy ganolbwyntio ar gefnogi'r rhannau hyn o'r economi (economi sylfaenol) gallwn ni helpu i gadw arian mewn cymunedau, creu gwell amodau cyflogaeth a chynyddu ffyniant ar draws Cymru.
"Drwy ddyblu'r Gronfa sydd ar gael, rydyn ni'n disgwyl gweld y buddion hyn yn dwyn ffrwyth yn gyflymach ac yn cael eu mwynhau'n fwy eang."
Yn ôl y llywodraeth bydd y gronfa hefyd yn cynnig cyfle i weld pa ddulliau sy'n gweithio orau, cyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd ledled y wlad.
'Ysgogi trafodaeth'
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: "Nod y Gronfa hon yw grymuso busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i roi cynnig ar ddulliau newydd o ymateb i'r heriau a wynebir gan gyflogwyr a gweithwyr yn yr economi sylfaenol.
"'Dwi am godi proffil yr economi sylfaenol ac ysgogi trafodaeth a dysgu am yr hyn sy'n gweithio er mwyn i ni gynyddu arferion da a'u lledaenu er mwyn i bob cymuned yng Nghymru elwa.
"Magu cyfoeth a meithrin llesiant yw'r nod yn y pen draw, yn arbennig yn rhai o'n cymunedau llai breintiedig."
Mae modd gwneud ceisiadau i'r gronfa tan 5 Gorffennaf., dolen allanol
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2019
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019