Tynnu babi 6 mis oed a pherson o gar ger Bontnewydd
- Cyhoeddwyd

Roedd yr A487 ger Bontnewydd ar gau i'r ddau gyfeiriad
Cafodd babi chwe mis oed ei achub o gar yn dilyn gwrthdrawiad gyda lori ar yr A487 i'r de o Gaernarfon.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 16:13 ddydd Mawrth i'r digwyddiad yn ardal Ffrwd Cae Du, rhwng Bontnewydd a Llanwnda.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod y babi wedi ei dynnu o'r cerbyd i ofal parafeddygon.
Cafodd person arall oedd yn sownd yn y car ei ryddhau, ond nid oes mwy o fanylion am gyflwr yr un ohonyn nhw.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod un person wedi ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Cafodd ambiwlans awyr ei alw i'r digwyddiad.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd y ffordd ynghau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod, gan achosi tagfeydd rhwng cylchfan Glan Beuno a Glanrhyd ac ar ffyrdd cyfagos.
Mae'r ffordd bellach wedi ailagor, ond mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi'r ardal gan yr heddlu gan fod tagfeydd yn parhau.
Mae swyddogion hefyd yn apelio am wybodaeth ac unrhyw luniau o gamerâu dash-cam gan yrwyr oedd yn yr ardal adeg y digwyddiad.
