'Mwyafrif tawel' yn prynu olew canabis i drin epilepsi

  • Cyhoeddwyd
Olew CBD
Disgrifiad o’r llun,

Mae olew canabis CBD yn anghyfreithlon yng Nghymru

Mae nifer o gleifion sy'n byw â chyflwr epilepsi wedi dechrau prynu olew canabis anghyfreithlon er mwyn trin y symptomau.

Yn ôl Siân (enw ffug), mae hi bellach yn rhan o'r "mwyafrif tawel" sy'n prynu mathau o olew cannabidiol (CBD) er mwyn helpu trin ei mab sydd â math prin o epilepsi.

Mae cyflwr difrifol ei mab yn golygu bod pob trawiad yn gallu peryglu ei fywyd, ac o ganlyniad mae Siân wedi bod yn prynu'r sylwedd anghyfreithlon.

Dywedodd Siân fod "yr angen i amddiffyn fy mhlentyn yn rhan ohona i", a phan mae hi'n gweld ei mab yn dioddef "mae'n rhaid i mi gymryd y risg".

Mae Siân wedi bod yn prynu olew CBD ers dwy flynedd bellach, a dywedodd bod nifer o bobl o fewn y gymuned epileptig yn dechrau arbrofi gyda'r sylwedd ac yn gweld canlyniadau cadarnhaol.

"Ers iddo [ei mab] ddechrau cymryd olew CBD mae'r effaith wedi bod yn ddramatig iawn - mae'r trawiadau wedi mynd yn llawer llai cyffredin," meddai.

"Prin iawn y mae'n cael trawiad nawr, tra bod cael dau, dri neu hyd yn oed pedwar mewn diwrnod yn gwbl gyffredin yn y gorffennol."

'Siân'
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siân wedi bod yn prynu olew CBD i'w mab ers dwy flynedd bellach

Dywedodd Siân ei bod hi'n prynu'r olew canabis o'r "farchnad lwyd" ar y we.

"Mae yna berygl gwirioneddol o gael eich dal yn prynu'r cynnyrch gan ei fod yn anghyfreithlon," meddai.

Mae cyfran uchel o'r gwerthwyr y mae hi wedi delio â nhw yn deuluoedd sydd hefyd wedi cael eu heffeithio gan epilepsi, cyn mynd ati i dyfu canabis eu hunain.

Mae cynnydd aruthrol wedi bod yn nifer y cleifion epilepsi sy'n defnyddio CBD yn ôl elusennau, ond maen nhw'n rhybuddio nad yw rhai wedi ystyried y sgil effeithiau posib o'i ddefnyddio.

'Ffenomena'

Mae Dr Gareth Thomas yn un o'r tri ymgynghorydd yng Nghymru sydd â'r hawl i roi presgripsiwn olew canabis i gleifion epilepsi ifanc.

"Mae'r galw am y cyffur wedi tyfu i fod yn ffenomena meddygol, a 'da ni heb weld ei debyg ers 25 mlynedd," meddai.

"Rydyn ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae cleifion yn ceisio cael gafael ar olew CBD o ffynonellau tramor neu o ffynonellau gwahanol i'r GIG."

Ychwanegodd bod cleifion yn aml yn gwybod am y buddion posib, ond nad ydyn nhw wedi ystyried yr effaith mae'n gallu ei gael ar feddyginiaethau eraill.

CanabisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae meddyginiaeth sy'n deillio o ganabis yn gyfreithlon yn rhai o daleithiau America

Mae eraill yn defnyddio olew CBD fel ffordd o leihau poen. Dechreuodd Rhodri (enw ffug) brynu CBD ar gyfer ei wraig sy'n byw â phoen cefn cronig.

"Mae fy ngwraig mewn poen 24 awr y dydd, ac felly rydyn ni'n gwneud unrhyw beth o fewn ein gallu i newid hynny," meddai.

"Rydyn ni wedi gweld sgil effeithiau cadarnhaol o ran y boen gorfforol, ond hefyd gyda'r problemau iechyd meddwl y mae hi yn ei brofi.

"Er bod pobl yn ein beirniadu ni, ar ddiwedd y dydd dwi yma i wella a rheoli cyflwr fy ngwraig ac felly dydw i ddim wir yn poeni am be mae pobl eraill yn ei feddwl."

'Diffyg ymchwil'

Mae Torie Robinson yn ymgyrchu i geisio codi ymwybyddiaeth o gyflwr epilepsi, ac mae hi o'r farn nad oes digon o ymchwil wedi cael ei wneud yn y maes.

"Dwi'n teimlo'n rhwystredig fod pobl yn credu'r fath bethau am y ffordd y dylid trin y cyflwr," meddai.

Ychwanegodd Ms Robinson, sy'n dioddef o'r cyflwr ei hun, ei bod yn rhyfedd mai dim ond straeon cadarnhaol sy'n cael eu rhannu am olew CBD, a bod neb yn trafod profiadau negyddol.

"Efallai bod pobl yn rhy swil i siarad am y peth os nad yw'n gweithio, neu ddim eisiau cael eu gweld yn trafod y peth yn gyhoeddus," meddai.