Marwolaeth merch bedair oed yn 'drasiedi ofnadwy'
- Cyhoeddwyd
![Darcy-May Elm](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/91E7/production/_104115373_darcy-mayelm-gofundme.jpg)
Clywodd cwest fod merch bedair oed wedi marw ar ôl i'w thad geisio gyrru ar draws ffordd ddeuol ar gyrion Caerfyrddin.
Cafodd Darcy-May Elm ei lladd ar ôl gwrthdrawiad gyda char arall ar yr A40 rhwng Caerfyrddin a Sanclêr ar 27 Hydref y llynedd.
Yn ôl yr archwilydd fforensig Aled Thomas roedd tad Darcy-May, Daniel Elm, wedi croesi'r ffordd ddeuol o'r lôn orllewinol i'r un ddwyreiniol, ond yna wedi ceisio troi ac ailymuno â'r lôn orllewinol.
Ond cafodd ei daro gan y car arall cyn cyrraedd y llain ganol.
'Ar goll hebddi'
Dywedodd y crwner, Mark Layton, ei bod yn bosib fod Mr Elm wedi gwneud camsyniad wrth geisio cyrraedd gorsaf betrol.
Ar ôl y ddamwain roedd Mr Elm o Ddyfnaint wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd wedi gweld y car arall yn teithio lawr y lôn ddwyreiniol.
Cafodd Darcy-May ei chludo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ond bu farw yn ddiweddarach o anafiadau difrifol i'w gwddw a'i brest.
![A40](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D744/production/_106980155_347fd32e-f27e-483d-8bbc-775a289b8e46.jpg)
Roedd Daniel Elm yn ceisio croesi ffordd ddeuol yr A40 ar gyrfion Caerfyrddin
Disgrifiodd y crwner Mark Layton y ddamwain fel "trasiedi ofnadwy".
Fe gafodd Mr Elm anafiadau fydd yn newid ei fywyd, tra bod ei wraig Danielle wedi dioddef anafiadau oedd yn peryglu ei bywyd, ac mae'n parhau i dderbyn triniaeth.
Dywedodd y crwner fod Darcy-May wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd.
Mewn datganiad teuluol cafodd ei ddarllen yn ystod y cwest dywedodd ei theulu fod Darcy-May yn ferch "hyfryd, gariadus yr oeddem yn ei charu gymaint, ac yn cael ei haddoli gan ei nain a thaid".
Ychwanegodd: "Rydym yn ei cholli... rydym ar goll hebddi.... Duw a dy fendithia Darcy-May, ein hangel fach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2018