Carchardai Cymru: Diffyg cydweithio rhwng llywodraethau

  • Cyhoeddwyd
Peiriant sganioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn galw am gyflwyno peiriannau sganio corff i garchardai, fel sydd mewn meysydd awyr

Mae gangiau treisgar, gofal iechyd gwael a gorlenwi yng ngharchardai Cymru yn broblemau sy'n deillio o ddiffyg cydweithio rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru, yn ôl adroddiad newydd.

Daeth pwyllgor o Aelodau Seneddol San Steffan i'r casgliad fod elfennau pwysig o reoli carchardai yn cael eu hesgeuluso yn sgil y modd mae gwasanaethau'n cael eu rhannu rhwng y ddwy lywodraeth.

Mae'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud nifer o newidiadau, yn ogystal â chynnal adolygiad annibynnol o effeithiolrwydd Carchar Berwyn, yn Wrecsam cyn gwneud unrhyw ymrwymiad i adeiladu un newydd.

Mae'r pwyllgor hefyd yn galw am ddata mwy cynhwysfawr o ran carcharorion sy'n siarad Cymraeg, i wella'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio ganddyn nhw fel darpariaeth annigonol ac anghyson ac er mwyn cefnogi anghenion siaradwyr Cymraeg mewn carchardai yn Lloegr.

Dyma rai o'r pethau mae'r pwyllgor am weld:

  • Sganwyr tebyg i'r rhai mewn meysydd awyr ym mhob carchar yng Nghymru i ganfod cyffuriau a ffonau symudol;

  • Cyflwyno unedau gwarchod bach newydd yn nes at gartrefi troseddwyr ifanc i fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â gangiau yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc ger Pen-y-bont;

  • Sefydlu unedau preswyl i fenywod yng ngogledd a de Cymru er mwyn galluogi gwragedd sy'n troseddu i aros yng Nghymru;

  • Creu uned ganolog o fewn gwasanaeth iechyd Cymru sy'n gwasanaethu carchardai;

  • Gwaith i osgoi digartrefedd ymysg carcharorion ar ôl eu rhyddhau;

  • Staff profiadol yn cadw eu swyddi a hyfforddiant i swyddogion carchar newydd i leihau trais a marwolaethau yn y ddalfa;

  • Gwella gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg mewn carchardai ledled Cymru a Lloegr.

Clywodd aelodau'r pwyllgor bryderon bod cynnydd mewn trais, hunan-niweidio a marwolaethau wedi'u hachosi'n rhannol gan broblemau recriwtio a chadw staff.

Mae'r adroddiad yn dweud bod cynnydd mewn gweithgarwch anghyfreithlon - fel smyglo cyffuriau a ffonau symudol i mewn i garchardai - yn cael effaith ar ddiogelwch o fewn y sefydliadau.

Roedd problemau yn gysylltiedig â gangiau hefyd yn broblem yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc gan fod troseddwyr ifanc o Loegr wedi dod â chysylltiadau gangiau gyda nhw, meddai'r adroddiad.

Angen rhoi sylw 'ar frys'

Er bod cynlluniau ar gyfer carchar newydd ym Maglan, Port Talbot wedi eu rhoi o'r neilltu, clywodd y pwyllgor bryderon mai pwrpas unrhyw garchar newydd fyddai lleddfu'r pwysau ar garchardai Lloegr.

Mae'r pwyllgor yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau y byddai unrhyw ddatblygiad newydd yng Nghymru yn blaenoriaethu anghenion carcharorion Cymreig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd problemau yn gysylltiedig â gangiau'n broblem yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc, meddai'r adroddiad

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, David TC Davies: "Mae angen mynd i'r afael â darganfyddiadau'r pwyllgor ar frys, a hynny cyn i'r llywodraeth ystyried unrhyw ddatblygiad carchar newydd yng Nghymru.

"Yn gyntaf, mae angen rhoi sylw i'r diffyg cydweithrediad rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU o ran eu cyfrifoldebau am garchardai, ac yn ail, rhaid ystyried anghenion troseddwyr Cymru a chymunedau cyfagos cyn i unrhyw ddatblygiad carchar newydd ddigwydd."

Ychwanegodd yr adroddiad: "Yn ystod ymweliadau â charchardai Cymru, darganfyddodd y pwyllgor nifer o broblemau yn ymwneud â darpariaeth gofal iechyd fel diffyg gofal iechyd meddwl ac amseroedd aros hir ar gyfer gwasanaethau fel trin traed a deintyddiaeth."

Yn ogystal â hynny, mae'r adroddiad yn dweud bod problemau gan fod polisïau iechyd ar driniaethau cyffuriau yn wahanol yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder:

"Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â Llywodraeth Cymru ac rydym wedi cydweithio ar strategaethau i gryfhau dysgu a gwella sgiliau yn y carchar, gwasanaethau iechyd, a mewn adsefydlu troseddwyr.

"Byddwn yn ystyried yr adroddiad hwn yn ofalus ac yn ymateb maes o law."