Technoleg iechyd i roi llais cryfach i gleifion Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae angen i'r gwasanaeth iechyd roi llais cryfach i gleifion er mwyn gallu dylanwadu ar eu gofal a thriniaeth eu hunain.
Dyna'r alwad gan feddygon blaenllaw sy'n dweud fod y pwysau ar staff iechyd a chymhlethdodau meddygaeth fodern wedi cynyddu'r risg o gamgymeriadau.
Daw'r rhybudd ar drothwy cynhadledd fawr ar ddiogelwch cleifion ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos nesaf, fydd yn trafod sut all technoleg newydd drawsnewid y berthynas rhwng staff a chleifion.
Mae meddygon a gwyddonwyr yng Nghymru eisoes yn datblygu systemau i gleifion fonitro eu cyflyrau a'r meddyginiaethau sydd eu hangen arnyn nhw.
'Os alla i ei ddefnyddio - gall unrhyw un!'
Ar ward ganser Ysbyty Gwynedd mae ap yn cael ei dreialu sy'n caniatáu i gleifion sy'n cael cemotherapi gadw golwg ar eu symptomau.
Yn y gorffennol fe fyddai Glynnis Gaines - sydd â chanser yr ysgyfaint - wedi gorfod ffonio'r ysbyty os oedd ganddi bryderon am sgil-effeithiau ei thriniaeth.
Nawr gall hi wneud hynny'n ddyddiol yn defnyddio ei ffôn symudol.
"Dwi'n credu fod y system yn arbennig o dda," meddai.
"Mae'n rhoi sicrwydd i fi petai 'na rywbeth o'i le fe fyddai staff yn gwybod am hynny yn syth.
"Mae'n system rhwydd i'w ddefnyddio, os alla i ei ddefnyddio - gall unrhyw un!"
Yn Wrecsam mae cwmni Aparito wedi datblygu ap sy'n atgoffa cleifion i gymryd meddyginiaeth neu i gofnodi'r rhesymau pam na wnaethon nhw hynny.
Yn ôl Dr Elin Haf Davies, y nyrs sefydlodd y cwmni, mae technoleg o'r fath yn dro ar fyd yn y berthynas rhwng staff a chleifion.
"Un o'r problemau anoddaf i feddygon pan maen nhw'n asesu claf ydy gwneud yn siŵr bod nhw'n cael hanes y symptomau'n gywir," meddai.
"Mae'n anodd iawn i'r claf gofio pa symptom, pa mor ddrwg, pryd yn union ddigwyddodd o, be' achosodd y symptom yna i fod yn well neu'n waeth, ac felly i gofnodi hyn yn defnyddio technoleg yn y funud, mae hynny'n mynd i helpu."
Bydd Dr Davies yn trafod y dechnoleg mewn cynhadledd ym Mangor, ac yn ôl y meddyg sy'n gyfrifol am ei drefnu, dyma'r gynhadledd gyntaf i gleifion rannu syniadau.
"Mae gofal iechyd yn mynd yn fwy cymhleth bob dydd," meddai Dr Chris Subbe.
"Pan fyddai'n gweld claf fe allan nhw fod â thua hanner dwsin o gyflyrau, yn dibynnu ar 20 neu fwy o feddyginiaethau a bydd rhaid i ni gynnal profion di-ri.
"Y person sy'n gwybod orau beth yn union sydd wedi newid o ran ei hiechyd yw'r claf ei hun neu rywun sy'n agos atyn nhw - boed hynny'n berthynas neu ffrind agos."
Ond tra'n argyhoeddedig ynglŷn â photensial technoleg newydd mae Dr Subbe hefyd yn ymwybodol o'r rhwystr.
"Rhaid i bobl gael dewis - fe fydd rhai unigolion yn gwbl gyfforddus yn defnyddio technoleg a chymryd mantais o gyfleodd i gymryd mwy o reolaeth o'u triniaeth," meddai.
"Fe fydd eraill ddim am wneud hynny o gwbl.
"Felly mae'n hollbwysig fod 'na ddewis - ac yn enwedig o ran sicrhau nad yw'r bobl hynny efallai nad sy'n hyderus yn defnyddio technoleg newydd yn cael eu gadael ar ôl."
'Addysgu am iechyd eu hunain'
Eto mae gwerth gwrando ar gleifion eisoes yn cael ei werthfawrogi gan y genhedlaeth nesaf o staff.
Dywedodd Dr Conor Martin, ymgynghorydd yn Ysbyty Gwynedd: "Yn ddelfrydol mi ddyla claf gael ei addysgu gymaint â phosib mewn ffordd briodol, nid mewn ffordd Google Doctor, ond 'efo help y Gwasanaeth Iechyd i addysgu ei hunain am eu cyflyrau ei hunain, ac wedyn gallu helpu'r meddyg i wybod pryd mae pethau'n well ac yn waeth o fewn da bryd."
Oherwydd y pwysau a'r straen, oherwydd y prysurdeb a'r galw - mae rhai yn dadlau fod y Gwasanaeth Iechyd yn colli cyfleoedd gwerthfawr i wella gofal, gan nad oes digon o gyfle i gleifion ymgymryd â'u gofal ei hunain.
Y cwestiwn nawr yw sut mae newid hynny, heb amddifadu'r rhai fydd wastad yn gorfod dibynnu ar eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd20 Awst 2018