Cofio dyddiau cynnar Theatr Ieuenctid yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Y dramodydd a'r cyfarwyddwr Emyr Edwards yw un o lywyddion anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd eleni.
Ar ddiwedd y 60au, cynigiodd Mr Edwards y syniad o greu Theatr Ieuenctid yr Urdd i brif swyddog yr Urdd bryd hynny, R E Griffith.
Fe aeth y cwmni ymlaen i sbarduno gyrfaoedd nifer o actorion a dramodwyr eraill fel Sian James, Stifyn Parry a Cefin Roberts.
Tra'n ddramodydd ifanc, sylwodd Mr Edwards bod diffyg cyfleoedd ar gael i bobl ifanc ymddiddori mewn actio trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Fi'n cofio sylweddoli bod shwt gymaint o dalent yng Nghymru, a bod angen gwneud rhywbeth am hynny," meddai.
"Fe es i am sgwrs ag R E Griffith, ac roedd e'n frwdfrydig iawn! Felly fe aethom ati i drefnu cynllun."
Bryd hynny, roedd y Cwmni Theatr yn cychwyn gyda'r Hydref, ac yn ymarfer a pherfformio erbyn y mis Ebrill canlynol.
"Roedd yn rhaid i ni deithio o amgylch yr ysgolion a dewis cast - ac roedd cannoedd yn ceisio ymuno," meddai Mr Edwards.
"Cafo' ni afael ar gast newydd a diddorol iawn - mae rhai ohonyn nhw'n actio hyd heddiw.
"Yna am wythnos neu ddwy roedd Llangrannog neu Glan-llyn yn llawn pobl ifanc yn ymarfer ar gyfer eu sioeau."
Yn ogystal â chyfarwyddo'r sioeau, Mr Edwards oedd yn gyfrifol am gyfansoddi nifer o sioeau'r theatr ieuenctid, gan gynnwys Jiwdas Iscariot, Elfis a Chicago.
"Roedd hyn yn hollol newydd - doedd e 'rioed wedi digwydd o'r blaen mewn hanes yr Urdd a hanes theatr Cymraeg.
"Roedd rhaid mynd ati i gyfansoddi sgriptiau a chaneuon opera roc yn y Gymraeg - doedd 'na'm y fath beth yn bodoli cyn hynny!
"Ac oherwydd y gwaith yma, mae llawer iawn o'r sgriptiau a berfformiwyd gan y cwmni wedi cael eu perfformio eto."
Cwymp ac Adferiad Dyn gan John Bowen oedd cynhyrchiad cyntaf y cwmni.
Roedd 40 o actorion a thechnegwyr yn ffurfio'r cwmni cyntaf, a thua 90 o gymeriadau yn y sioe.
"Buon ni'n perfformio yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd, ym Mhontyberem ac yn Llundain! Roedd e'n gyfnod mor gyffrous ac yn rh'wbeth torfol trwy Gymru gyfan."
Bu Mr Edwards yn gweithio gyda'r theatr ieuenctid am 15 mlynedd, cyn symud ymlaen at brosiectau eraill.
Ond mae'r Urdd wedi bod yn rhan o'i fywyd erioed, ac mae'n ddiolchgar i'r Urdd am yr anrhydedd.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn o gwbl - diolch yn fawr i'r Urdd!
"Maen nhw wedi cyfrannu yn fawr iawn, o'r dechrau, pan o'n i'n swog yn Glan-llyn a Llangrannog.
"Yn sicr maen nhw wedi rhoi llawer iawn o foddhad i filoedd a miloedd o bobl a phlant eraill."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2017