Sut fydd Jason Mohammad yn mwynhau'r Steddfod?
- Cyhoeddwyd
Y brodor o Gaerdydd, y cyflwynydd a newyddiadurwr Jason Mohammad sy'n cynnig cyngor ar sut i fwynhau Eisteddfod yr Urdd 2019.
1. Gwisgwch esgidiau call
Yr un peth fyddwch chi yn ei wneud yw cerdded - a llawer o hynny o gwmpas y Bae, felly gadewch y fflip-fflops gartref. Beth am bâr neis o drênyrs a fydd yn edrych yn cŵl ym Mae Caerdydd?
Dwi'n siarad o brofiad - pan oeddwn i'n ffilmio yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd roeddwn i mewn pâr o sanau neis a phâr o drênyrs cŵl a ches i 'run blister!
2. Os ydych chi eisiau amser i ffwrdd o'r Maes - ble i fynd?
Os cewch gyfle, dylech ymweld â Chanolfan Islamaidd De Cymru ar Alice Street.
Hefyd, mi ddylech chi'n bendant fynd i'r caffi Portiwgaleg bach rownd y gornel o'r Bae. Mae 'da nhw'r tartenni a'r coffi gorau yng Nghaerdydd.
3. Bwyta yn y bae
Mae cynifer o fwytai hyfryd o gwmpas Bae Caerdydd, mae'n anodd dewis un. Mae Lili, Max a Poppy - fy nhri o blant - yn ffans mawr o nwdls a reis.
Mae'n bendant yn syniad da mynd â phecyn bwyd ambell ddiwrnod ond peidiwch â cholli allan ar rai o'r pitsas a'r bwyd anhygoel sydd yn rhai o'r stondinau bwyd ar y maes hefyd.
Maen nhw'n eitha' rhesymol, ond os ydych yn cadw llygad ar y ceiniogau, allwch chi ddim curo picnic!
4. Beth ddylech chi weld tra yng Nghaerdydd?
Wel, mae dwy stadiwm odidog o fewn pellter cerdded neu daith fws fer.
Yn bendant, ewch i Stadiwm Principality os oes gennych amser a mynd ar daith o'i hamgylch. Neu beth am ychydig o siopa yng Nghaerdydd? Erbyn hyn mae gennym rai o'r siopau gorau yn y DU!
5. Cael y gorau allan o'r ŵyl?
Dwi wrth fy modd gyda diwrnod allan yn yr Eisteddfod. Eleni, mae fy nhri phlentyn yn cystadlu, felly mae'n siŵr y bydda i'n rhedeg o gwmpas y lle (yn y trênyrs y soniais amdanyn nhw) yn trio gwneud yn siŵr 'mod i'n dal eu holl gyngherddau a'u perfformiadau i gyd.
Ond mi fydda i bob amser yn gwneud amser i weld rhai o'r bandiau a rhai o'r cantorion anhygoel sydd i'w gweld.
Mi fydda i'n bendant yno, yn mwynhau'r gwres yn fy sbectol haul, yn bwyta'r bwyd neis sydd ar gael - felly cofiwch ddod i ddweud helo!