Adolygu rheiliau diogelwch Pontcysyllte wedi marwolaeth
- Cyhoeddwyd
Bydd rheiliau diogelwch ar draphont lle disgynnodd dyn ifanc i'w farwolaeth yn cael eu hadolygu.
Bu farw Kristopher McDowell, 18 o Gefn Mawr ger Wrecsam, ar ôl disgyn o draphont Pontcysyllte ym mis Mai 2016.
Roedd crwner wedi codi pryderon am y bylchau rhwng y rheiliau, er i'r corff sy'n gyfrifol ddweud bod archwiliad wedi digwydd wythnosau cyn marwolaeth Mr McDowell.
Mae Ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru yn ystyried bod y rheiliau'n ddiogel, ond dywedon nhw eu bod am "ymchwilio" i newidiadau posib.
Ymchwilio i fesurau diogelwch
Clywodd cwest bod Mr McDowell gyda'i ffrindiau pan ddaeth un o'r rheiliau yn rhydd wrth iddo ei ddal gyda'i law.
Cofnododd y crwner John Gittins reithfarn o farwolaeth drwy anffawd, ond dywedodd bod mesurau profi'r rheiliau yn "annigonol".
Yn ei adroddiad dywedodd bod y bwlch rhwng rheiliau ar y draphont yn 195mm, er mai 110mm ydy'r bwlch safonol yn y diwydiant.
Galwodd ar yr ymddiriedolaeth i wneud gwelliannau.
Mae Ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru nawr wedi ymateb i'r adroddiad, gan ddweud eu bod yn "ystyried bod y draphont yn ddiogel ar gyfer defnydd arferol a bod y drefn brofi yn ddigonol ar gyfer y risg sy'n gysylltiedig â defnydd arferol".
Er hynny, mae datganiad yr ymddiriedolaeth yn ychwanegu bod "diogelwch ymwelwyr - a chanfyddiad o ddiogelwch - yn parhau'n brif flaenoriaeth".
Felly maen nhw'n "ymchwilio" gyda phartneriaid "sut i leihau'r risg sydd wedi ei gyflwyno, gan gynnwys o ddefnydd anarferol o'r draphont, gan y bylchau sydd rhwng y rheiliau ar hyn o bryd".
Dywedodd yr ymddiriedolaeth y byddai ymchwiliad i'r opsiynau posib yn dod i ben erbyn mis Medi, a bod arwyddion diogelwch newydd wedi eu gosod.
Ychwanegodd yr ymddiriedolaeth bod y drefn archwilio rheiliau yn "gymesur â'r angen".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2019