Disgwyl i Graham Potter adael CPD Abertawe am Brighton

  • Cyhoeddwyd
Graham PotterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe arwyddodd Graham Potter gyda Abertawe ym mis Gorffennaf 2018 o glwb Ostersund yn Sweden

Mae disgwyl i CPD Brighton benodi Graham Potter fel ei rheolwr newydd ar ôl iddo ddweud ei fod eisiau gadael Abertawe.

Roedd Potter wedi cael cynnig cytundeb newydd gan yr Elyrch, a fuasai wedi golygu cynnydd sylweddol yn ei gyflog.

Roedd Brighton wedi targedu Potter fel eu rheolwr nesaf ar ôl i Chris Hughton gael ei ddiswyddo ar ddiwedd tymor ble fu bron i Brighton ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr.

Fe gafodd Potter ganiatad i siarad gyda Brighton ar ôl datgan nos Wener ei fod yn awyddus i arwyddo i'r clwb yn y brif adran.

Ansicrwydd ariannol

Bydd dirprwy Potter, Billy Reid, yr hyfforddwr Bjorn Hamberg a phennaeth recriwtio Abertawe, Kyle Macaulay hefyd yn gadael y Liberty ac yn ymuno â Brighton.

Er gwaethaf y cynnig o gytundeb newydd, y gred yw bod yr ansicrwydd ariannol yn Abertawe wedi bod yn factor ym mhenderfyniad Potter.

Fe ymunodd Potter a'r Elyrch o glwb Ostersund yn Sweden ym mis Gorffennaf 2018.

Fe orffennodd Abertawe eu tymor yn y 10fed safle yn y Bencampwriaeth er i'r clwb werthu nifer o chwaraewyr ar ôl cwympo o'r Uwch Gynghrair blwyddyn ynghynt.

Dim ond llwyddo i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr wnaeth Brighton, a benderfynodd ddiswyddo Hughton ar ôl iddo reoli'r clwb ers Rhagfyr 2014.