Huw Jenkins yn ymddiswyddo fel Cadeirydd CPD Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Huw Jenkins wedi cadarnhau ei fod wedi ymddiswyddo o'r clwb.
Fe gafodd Jenkins ei benodi'n gadeirydd ym mis Ionawr 2002 gan fod yn allweddol yn arwain y clwb i Uwch Gynghrair Lloegr.
Fu bron i Abertawe ddisgyn allan o'r gynghrair Bêl-droed yn 2003 cyn codi drwy'r adrannau a chyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yn 2011.
Dywedodd Jenkins: "Rwy'n drist iawn i ddweud nad oes gennai fawr o ddewis ond camu lawr o fy rôl fel cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe."
Beirniadaeth cefnogwyr
Mae Jenkins wedi'i feirniadu gan garfanau o gefnogwyr yr Elyrch ers i'r perchnogion o America, Jason Levien ac Steve Kaplan gymryd drosodd yn 2016.
Mae'r galw arno i gamu lawr wedi cynyddu ers cwymp Abertawe i'r Bencampwriaeth ar ddiwedd tymor diwethaf.
Dywedodd Abertawe mewn datganiad fod ymddiswyddiad Jenkins yn caniatáu'r clwb "dynnu llinell o dan gyfnod anodd yn hanes y clwb."
Daw ymddiswyddiad Jenkins ar ddiwedd cyfnod trosglwyddo rhwystredig iawn i'r clwb, pan wnaeth cyfres o chwaraewyr allweddol adael a chafodd neb eu hyrwyddo yn eu lle.
"Mae Abertawe wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd ers i mi fod yn ifanc.
"Rwyf wedi bod yn lwcus o fod wedi gallu cyflawni breuddwyd dros y 17 mlynedd diwethaf, drwy ddarparu cyfeiriad ac arweiniad i'r clwb wrth symud drwy'r cynghreiriau a chyrraedd y brig o ran Pêl droed Prydeinig am saith mlynedd.
"Yn araf bach dros y blynyddoedd diwethaf mae fy rôl fel Cadeirydd wedi erydu.
"O'r diwedd, allai eistedd yn ôl a pheidio cuddio y tu ôl i fy safle a bod yn ffyddlon i fy nheimladau," meddai.
'Colli rheolaeth'
Jenkins oedd yn gyfrifol am benodi Roberto Martinez, Brendan Rodgers a Michael Laudrup i'r clwb.
Roedd hefyd yn gadeirydd pan symudodd y clwb i chwarae yn Stadiwm Liberty.
Ychwanegodd Jenkins: "Roedd dewisiadau doeth o ran rheolwyr yn gymorth i adeiladu' clwb wnaeth ychwanegu at y llwyddiant dros sawl blwyddyn, a dyna un o'r pethau fyddai yn ei fethu.
"Hoffwn ddiolch i'r staff a'r chwaraewyr presennol a rhai o'r gorffennol, ac wrth gwrs i'r cefnogwyr sydd wedi fy nghefnogi dros yr 17 mlynedd.
"Mae wedi cymryd amser i mi ddod i'r penderfyniad yma, ond mae'r awyrgylch presennol gyda'r clwb ar y cae ac oddi arno yn achosi tristwch.
"Hefyd, rwy'n ei gweld hi'n anodd ymladd ymlaen mewn clwb yr wyf yn ei garu ond un na allai ei reoli mwyach," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd10 Mai 2018