Met Caerdydd yn cyrraedd Ewrop ar ôl trechu'r Bala
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf erioed bydd Met Caerdydd yn chwarae yn Ewrop wedi iddynt drechu Bala ar giciau o'r smotyn yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Y sgôr wedi 90 munud ac ar ôl amser ychwanegol ym Maes Tegid oedd un yr un ac am y tro cyntaf erioed aeth y gemau ail gyfle i amser ychwanegol.
Roedd y ddwy gôl wedi digwydd cyn hanner amser - Henry Jones o dîm Y Bala a sgoriodd gyntaf ac fe unionodd Eliot Evans y sgôr i Met Caerdydd.
Wedi i Bala fethu ciciau o'r smotyn fe sicrhaodd cic Eliot Evans y fuddugoliaeth dyngedfennol i Met Caerdydd.