Môn yn atal cynllun ad-drefnu addysg gynradd yn ne'r sir

  • Cyhoeddwyd
Ysgol BodfforddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna wrthwynebiad mawr i'r posibilrwydd o gau'r ysgol ym Modffordd, lle mae dros 80 o blant ar y gofrestr

Mae Cyngor Môn wedi rhoi'r gorau i'r cynllun presennol i gau tair ysgol gynradd ar yr ynys oherwydd nad oedd y canllawiau cywir wedi eu dilyn.

Yn wreiddiol roedd cynghorwyr wedi pleidleisio o blaid cynlluniau i gau ysgolion Bodffordd, Biwmares a Thalwrn.

Ond ddydd Llun dywedodd prif weithredwr yr awdurdod, Dr Gwynne Jones, nad oedd swyddogion addysg wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru wrth argymell y penderfyniad i gau.

Fe benderfynodd y cyngor ym mis Rhagfyr i gau'r ysgol ym Modffordd ynghyd ag Ysgol Corn Hir, Llangefni, a chodi ysgol gynradd newydd ar gyfer 360 o ddisgyblion yn y dref.

Ym mis Gorffennaf, fe benderfynwyd cau Ysgol Gynradd Biwmares ac adnewyddu Ysgol Llandegfan ac Ysgol Llangoed, ac i gau Ysgol Talwrn gan symud disgyblion i Ysgol y Graig yn Llangefni.

Roedd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams eisoes yn ymchwilio i gŵyn ynglŷn â'r broses wrth benderfynu cau Ysgol Gymuned Bodffordd.

Ymhlith yr honiadau oedd bod y swyddogion wedi "methu a chynnwys opsiynau eraill heblaw cau" a "chonsyrn nad oedd effaith cau ysgol wedi ei rannu gyda rhanddeiliaid".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cynlluniau yn cynnwys cau Ysgol Biwmares a'i huno gydag Ysgol Llangoed

Wrth gyhoeddi eu bod yn gwneud tro pedol datgelodd Dr Gwynne Jones fod rhai yn bygwth dod ag achos cyfreithiol yn erbyn yr awdurdod.

"Dyw hyn ddim yn fai ar y cabinet nac aelodau etholedig, yn hytrach fe wnaethon nhw weithredu ar gyngor ganddo i neu gan swyddogion, a hoffwn ymddiheuro am hyn."

Y disgwyl yw y bydd swyddogion addysg yn llunio cynigion newydd wrth amlinellu dyfodol addysg gynradd yn yr ardal.

'Cadw o fewn y rheolau'

Ond nawr bydd yn rhaid cyd-fynd â chanllawiau mwy llym - o ganlyniad i god newydd gafodd ei gyflwyno fis Tachwedd y llynedd.

Mae'r pwyslais nawr ar ragdybiaeth o geisio cadw ysgolion gwledig ar agor.

Dywedodd y Cynghorydd Meirion Jones, aelod o'r bwrdd gweithredol sydd â chyfrifoldeb am addysg: "Rwy'n siomedig, yn bennaf oherwydd y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud.

"Wrth gwrs mae'n rhai cadw o fewn y rheolau ac mae angen symud ymlaen, fel cyngor mae'n rhaid i ni ymddiheuro i bawb sy'n gysylltiedig â'r ysgolion.

"Rwy'n teimlo nad oes dewis arall ond i dderbyn yr argymhelliad diweddara [i roi gorau i'r cynlluniau presennol]) ond byddwn yn gofyn i swyddogion ddod yn ôl gydag adroddiad newydd maes o law."

Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan Gymdeithas yr Iaith, oedd ymhlith y rhai i wrthwynebu cau'r ysgolion.

Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith: "Gallasai'r Pwyllgor Gwaith fod wedi penderfynu oedi'n unig neu ailgyflwyno eu cynigion, ond diolchwn eu bod wedi gwneud y peth iawn o ddiddymu'r penderfyniadau a rhoi sicrwydd i'r cymunedau y byddai pob ystyriaeth yn y dyfodol o dan egwyddor y Cod Trefniadaeth newydd sydd â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig."