Capeli wedi 'methu symud gyda'r oes'
- Cyhoeddwyd

Mae Capel y Groes, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel 'capel pinc, eiconig', wedi bod yn wrthrych sawl llun gan y diweddar arlunydd Aneurin Jones
Wrth i aelod blaenllaw o'r eglwys Bresbyteraidd ragweld y bydd capeli Cymraeg yn diflannu erbyn 2050, mae pentref yn Sir Gâr yn paratoi i drosglwyddo adeilad eu capel i ofalaeth y gymuned er mwyn dod â'r gymuned yn agosach.
Cafodd cyfarfod ei gynnal yng Nghil-y-cwm nos Lun i gael diweddariad ar y cynllun wnaeth ddechrau'n 2016 i drosglwyddo perchnogaeth Capel y Groes i'r gymuned, ar ôl i niferoedd addolwyr grebachu.
Ddydd Sul fe wnaeth y Parch D Ben Rees rybuddio na fydd capeli Cymraeg neu ddwyieithog yn bodoli erbyn 2050 am fod "cymunedau diwylliedig yn gadael i'w capeli ddiflannu" ond yn ymladd yn galed i achub eu tafarndai, "sydd wedi cyfrannu cyn lleied i'n cenedl".
Ond yn ôl Aled Edwards, sy'n cynorthwyo gyda'r gwaith o drosglwyddo perchnogaeth Capel y Groes, mae'n bosib bod rhai capeli wedi methu â symud gyda'r oes.
"Rhaid diolch i aelodau blaengar Capel y Groes, sydd dan adain yr Annibynwyr, am eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad dewr wrth weld y bydde'r drysau'n gorfod cau achos nad oedd yna waed ifanc yn dod i mewn i'r gynulleidfa.

Yn ystod cyfarfod yn 2016 fe bleidleisiodd aelodau dros ddechrau ar y broses o drosglwyddo adeilad Capel y Groes i'r gymuned
"Ma' hyn yn caniatáu i'r capel a'r gymuned rannu'r costau o gynnal a chadw," meddai Mr Edwards, sydd wedi bod yn gweithio gydag ymddiriedolwyr y capel ar y cynllun.
"Yn sicr gyda mewnlifiad di-Gymraeg mewn i'r ardal yma, mae'r capel wedi cadw'n solet Gymraeg, ond mae hynny'n golygu bod 'na bellhau wedi bod rhwng y capel a'r teimlad cymuned 'na."
Cafodd Ysgol Cil-y-cwm ei chau yn 2016, ac ar un adeg roedd gan y cyngor cymuned fwriad i'w phrynu a'i throsglwyddo hi'n ganolfan gymuned neu'n neuadd, ond ni ddigwyddodd hynny am amryw o resymau.

Ar un adeg roedd y gymuned eisiau troi adeilad Ysgol Cil-y-cwm, a gaeodd ei drysau yn 2014, yn ganolfan gymunedol
Dywedodd Mr Edwards: "Doedd 'na ddim canolfan seciwlar tu allan i dŷ tafarn i'r gymuned i gwrdd o gwbl wedyn, dim ond yn y capeli neu yn y tafarn, a doedd hynny ddim yn ddeniadol ar gyfer lot o'r gweithgareddau oedd gynt yn digwydd yn Nghil-y-cwm.
"Felly na'th lot o'r gweithgareddau hynny fynd i ganolfannau mewn pentrefi a threfi cyfagos, ac ro'n ni'n gweld bo' ni'n colli'r bywyd cymdeithasol yn Nghil-y-cwm.
"Mae wedi costio rh'wbeth i'r capel a ninnau yn y gymuned i wneud hyn, i drosglwyddo'r capel i ofalaeth y gymuned, ond mae'r rhodd yn mynd i gael ei weithredu nawr yn union."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2019