Potter yn gadael Abertawe am Brighton

  • Cyhoeddwyd
Graham PotterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyn ymuno ag Abertawe arweiniodd Graham Potter Ostersunds o'r bedwaredd adran i'r brif adran yn Sweden

Mae rheolwr Abertawe Graham Potter wedi cael ei benodi yn brif hyfforddwr newydd Brighton & Hove Albion.

Mae'n ymuno gyda'r tîm o'r uwch-gynghrair ar gytundeb pedair blynedd, ar ôl blwyddyn gydag Abertawe.

Fe orffennodd yr Elyrch yn y degfed safle yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Cafodd Potter ganiatâd i siarad gyda Brighton ar ôl datgan nos Wener ddiwethaf ei fod yn awyddus i arwyddo i'r clwb yn y brif adran.

Dywedodd Graham Potter: "Cefais fy swyno gan weledigaeth hirdymor a'r angerdd a ddangoswyd gan Tony Bloom, Paul Barber a Dan Ashworth.

"Mae'r syniadau a'r cynlluniau sydd ganddynt ar gyfer dyfodol y clwb pêl-droed hwn wedi fy nghyffroi", meddai, "ac rwy'n falch iawn o fod yn rhan ohono."

"Mae'r clwb hwn wedi bod ar daith anhygoel a fy nod ynghyd â Bjorn [Hamberg], Kyle [Macauley] a Billy [Reid], yw sicrhau ein bod yn adeiladu ar y gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud cyn i ni ymdrechu i gryfhau yn yr uwch-gynghrair dros y blynyddoedd diwethaf. "

Ychwanegodd y Cadeirydd, Tony Bloom: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau gwasanaethau un o'r hyfforddwyr ifanc mwyaf disglair yn Lloegr."

"Mae gan Graham Potter hanes ardderchog o ddatblygu timau gyda steil chwarae deniadol, ffyrnig a gydag ysbryd cyfunol cryf."