Cyngor Ceredigion yn ailstrwythuro gwasanaeth cerdd
- Cyhoeddwyd
Bydd y gwasanaeth cerdd i ddisgyblion yng Ngheredigion yn cael ei ailstrwythuro fel rhan o ymdrechion y cyngor sir i arbed bron i £500,000.
Fe fydd y gwasanaeth "yn cadw'r holl incwm sy'n cael ei gynhyrchu" dan y strwythur newydd, ac yn gallu darparu hyfforddiant cerddoriaeth "mewn lleoedd ar wahân i ysgolion".
Yn ôl Cyngor Ceredigion fe fydd y newidiadau'n gwneud y gwasanaeth "yn gynaliadwy yn y dyfodol" ac yn sicrhau "bod unrhyw ddisgybl" yn gallu ei ddefnyddio.
Mae ymgyrchwyr wedi gwrthwynebu toriadau ariannol posib gan ddadlau bod perygl iddyn nhw fygwth dyfodol corau a grwpiau offerynnol yn y sir, ac arwain at gostau uwch i rieni.
Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn cynnal tîm o athrawon a thiwtoriaid cerdd teithiol sy'n cynnig gwersi offerynnol a chanu mewn 46 o ysgolion ar draws y sir.
Maen nhw hefyd yn trefnu bandiau, corau a cherddorfeydd.
Mae'r drefn newydd yn seiliedig ar bum egwyddor:
fe fydd unrhyw ddisgybl yn gallu defnyddio'r Gwasanaeth Cerdd;
bydd ensembles, cerddorfa a chorau yn parhau heb gost ychwanegol;
bydd tîm o staff craidd yn cael eu cyflogi ar yr un telerau ac amodau cyflogaeth;
bydd polisi codi tâl yn gyson ac yn deg;
bydd dim tâl yn cael ei godi ar ddisgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, neu sy'n astudio cerddoriaeth ar gyfer TGAU neu Lefel A.
Cafodd y penderfyniad ei wneud gan uwch swyddogion a'i nodi gan aelodau cabinet y cyngor fel rhan o becyn o fesurau i arbed £499,000 o gyllideb y Gwasanaeth Ysgolion.
Bydd nifer y staff sydd eu hangen yn seiliedig ar nifer y disgyblion sy'n derbyn hyfforddiant cerddoriaeth.
Dywedodd y swyddog arweiniol corfforaethol ar gyfer ysgolion, Meinir Ebbsworth: "Rwy'n deall bod yr arbedion y mae'n rhaid i ni eu gwneud yn poeni llawer o bobl sy'n gwerthfawrogi'r Gwasanaeth Cerddoriaeth yn fawr iawn.
"Rydym am weld y gwasanaeth yn ffynnu yn y dyfodol ac am gyflawni hynny ar adeg pan fo ein cyllidebau wedi'u torri'n ddifrifol dros gyfnod o flynyddoedd."
Nôl ym mis Mawrth, mewn ymateb i'r argymhelliad gwreiddiol gan un o bwyllgorau'r cyngor, fe rybuddiodd Cyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion y byddai "toriadau mor enfawr i un gwasanaeth... yn debygol o fod yn ergyd farwol i gerddoriaeth ymhlith pobl ifanc Ceredigion".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2016