'Dim gobaith caneri' i gynllun Brexit Theresa May
- Cyhoeddwyd

"Rhacs jibiders" yw disgrifiad David Davies o gynllun diweddaraf Theresa May
Yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol David Davies does gan y Prif Weinidog "ddim gobaith caneri" o gael ei chynllun Brexit drwy Dŷ'r Cyffredin, ac fe ddylai Theresa May ymddiswyddo.
Bydd y Prif Weinidog yn cyflwyno ei chynllun diweddaraf i adael yr Undeb Ewropeaidd ger bron Tŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.
Mae disgwyl i Mrs May roi "un cyfle olaf" i Aelodau Seneddol gefnogi'r cynllun.
Mewn cyfweliad ar raglen Post Cyntaf dywedodd Aelod Seneddol Mynwy: "Mae gyda fi llawer iawn o bryder am y peth. Does dim gobaith caneri gyda'r cytundeb, dydi o ddim yn mynd i basio."
'Rhacs jibiders'
Ychwanegodd: "Rhacs jibiders yw'r gair sy'n dod i fy meddwl. Dim siawns o gwbl achos dydi Theresa May ddim wedi gwneud digon i berswadio aelodau Llafur i gefnogi'r cytundeb a bydd aelodau o'r blaid Geidwadol ddim yn cefnogi'r cytundeb....mae'r holl beth yn wastraff o amser.
"Mae gyda fi pryderon mawr dros y posibilrwydd o gynnal refferendwm arall."

Cafodd David Davies ei herio gan brotestiwr sy'n cefnogi Brexit y tu allan i Dŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth
Mewn ateb i gwestiwn ar arweinyddiaeth Mrs May dywedodd: "Mae hi mewn sefyllfa anodd ond mae hi wedi achosi hynny.
"Mae'n rhaid i Theresa May sefyll i lawr cyn gynted â sy'n bosibl ac i gael arweinydd newydd.
"Mae'n anodd i weld sut all Brexit ddigwydd nes mae gyda ni arweinydd sy'n barod i dynnu Prydain allan heb gytundeb ym mis Hydref."