Ymchwilio i achos arall o lygredd yn yr Afon Teifi
- Cyhoeddwyd
Mae pysgotwyr wedi galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau na fydd rhagor o lygredd yn llifo i Afon Teifi yn dilyn achos arall nos Iau.
Bu'r corff amgylcheddol yn ymchwilio i achos o lygredd yn Afon Plysgog, Cilgerran - afon sy'n llifo i mewn i'r Teifi.
Roedd lliw'r dŵr yn llwyd ac roedd degau o bysgod wedi eu lladd.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad ac y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad.
Daw'r achos diweddaraf yma dim ond tair wythnos ar ôl i Afon Dyfan, sydd hefyd yn llifo i'r Teifi, gael ei llygru pan lifodd dros 100,000 galwyn o slyri i'r dŵr o fferm laeth gerllaw.
'Dychrynllyd'
Dywedodd Dan Rogers, un o'r pysgotwyr ar yr afon: "Mae llond lle o bysgod wedi marw yma, ac mae'n eitha' amlwg bod pollution incident wedi bod.
"Does dim arogl ond o liw'r dŵr mae'n amlwg mai hynny sydd wedi digwydd eto.
"Dim ond tair wythnos ers yr un diwethaf - dyw e ddim yn jôc rhagor.
"Mae'r amser wedi dod nawr, mae'n rhaid gwneud rhywbeth, mae hyn yn ddychrynllyd."
Mae'n debyg bod nifer o'r pysgod a laddwyd ddydd Iau yn frithyll, oedd yn barod i'w dal.
"Ni wedi colli afon fach dda nawr," meddai Mr Rogers.
"Ni'n galw ar CNC i wneud rhywbeth. Dyw hyn ddim yn ddigon da. Mae'n dorcalonnus beth sydd wedi digwydd yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2018