Gruffudd Owen o Bwllheli yw Bardd Plant nesaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Enillodd Gruffudd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd am awdl 250 o linellau o dan y teitl 'Porth'
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Gruffudd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd am awdl dan y teitl 'Porth'

Daeth cadarnhad mai Gruffudd Owen o Bwllheli fydd Bardd Plant nesaf Cymru mewn cyhoeddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro.

Mae'n golygu mai un o Ben Llŷn fydd Bardd Plant Cymru eto eleni, ar ôl i gyfnod Casia William ddirwyn i ben.

Gruffudd fydd yr 16eg bardd i ymgymryd â'r rôl, a bydd yn dechrau ar y gwaith yn swyddogol ym mis Medi.

Yn cyhoeddi ar lwyfan Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm oedd Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

'Braint anhygoel'

Dyma lwyfan cyfarwydd i Gruffudd, gan iddo ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2009, a Chadair yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Bellach yn byw yng Nghaerdydd, bu'n gweithio am 10 mlynedd fel golygydd i raglen deledu Pobol y Cwm, ond mae bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun fel awdur a golygydd llawrydd.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd ei bod hi'n "fraint anhygoel" cael ei benodi fel Bardd Plant Cymru 2019-21.

"Mae barddoniaeth wastad wedi bod yn rhan bwysig o 'mywyd i ers i mi fod yn sgriblo cerddi gwirion yng nghefn fy llyfr mathemateg yn yr ysgol gynradd!

"Does dim yn rhoi mwy o fwynhad i mi na gweld llond ystafell o blant yn chwerthin wrth wrando ar gerdd."

Ychwanegodd bod "cyd-wrando ar farddoniaeth yn brofiad sydd yn ein hasio" a bod rhaid i'r genhedlaeth nesaf "brofi'r iaith yn ei holl ogoniant doniol, chwareus, unigryw a chyfoethog" os ydy'r Gymraeg am ffynnu.

"Diolch arbennig i Casia Wiliam, fy rhagflaenydd, achos mae hi'n fardd arbennig ac yn wariar o ddynas! Dwi ond yn gobeithio y medra i fod yn deilwng o'i doniau a'i brwdfrydedd hi."

Disgrifiad o’r llun,

Casia a Gruffudd cyn y seremoni yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro

Dywedodd Casia Wiliam ei bod wedi cael "dwy flynedd arbennig iawn".

"Mi fydd fy mywyd yn fwy tawel a thipyn tlotach wrth i'r antur hon ddod i ben, ond yn bendant mae antur fawr yn aros am holl blant Cymru.

"Does gen i ddim amheuaeth y bydd Gruff yn fardd plant hwyliog ac annwyl, fydd yn saff o ysgogi cerddi ysgubol ym mhob cwr o'r wlad."

'Enwog am ei hiwmor'

Llenyddiaeth Cymru sy'n rhedeg cynllun Bardd Plant Cymru, gyda chefnogaeth gan Gyngor Llyfrau Cymru, Llywodraeth Cymru, S4C ac Urdd Gobaith Cymru.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Dyma benodiad cyffrous iawn. Mae Gruff yn enwog am ei hiwmor ac am ei gerddi cyfoes, a bydd ei weithdai'n siŵr o danio dychymyg plant Cymru.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i Casia a'i llongyfarch ar yr hyn y mae hi wedi ei gyflawni fel Bardd Plant Cymru.

"Nid yn unig mae hi wedi ysbrydoli cannoedd o blant, ond mae hi hefyd wedi cyflwyno ac amlygu materion pwysig i'r genhedlaeth nesaf, o hawliau dynol i newid hinsawdd.

"Mae'n amlwg iddi ddatblygu fel bardd ac awdur hefyd, a dwi'n hynod falch o fod wedi gallu dilyn y daith honno dros y ddwy flynedd ddiwethaf."