Cynghorau i osod targedau addysg i gyrraedd miliwn siaradwr
- Cyhoeddwyd
Bydd cynghorau sir yn cael gosod eu targedau eu hunain er mwyn ceisio sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, dan gynllun y llywodraeth.
Awdurdodau lleol sy'n gwybod orau sut mae sicrhau cyfleoedd i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn yr ysgol a sut mae sicrhau bod plant yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Ddydd Iau cyhoeddodd y llywodraeth gynlluniau i newid y rheoliadau ynghylch sut y mae awdurdodau lleol yn cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.
Dywedodd Dr Dylan Foster Evans, cadeirydd bwrdd cynghori annibynnol ar y cynlluniau strategol, fod angen gwneud y cynlluniau "yn gryfach" ac yn fwy "uchelgeisiol".
Ychwanegodd Dr Foster Evans, sydd hefyd yn bennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, fod y targedau newydd yn heriol ond yn gyraeddadwy.
"Os 'da chi'n edrych ar nifer y plant saith oed sy'n cael addysg cyfrwng Gymraeg mae rhywle fel Gwynedd wrth sgwrs gyda thua 98%, ond mewn rhai siroedd yn y de ddwyrain mae ffigwr tua 5%," meddai ar raglen y Post Cyntaf.
"Felly yn amlwg does dim modd disgwyl i bob sir weld yr un cynnydd yn union, ond mi fydd canllawiau ar gael i'r cynghorau lunio eu targedau ac mi fydd hynny yn cael ei gytuno gyda'r llywodraeth.
"Mae yna gerrig filltir, er enghraifft rŵan mae o gwmpas 22 i 23% o blant saith oed yn cael addysg cyfrwng Cymraeg.
"A da ni'n edrych i godi hyn i tua 30% erbyn tua 2031 - felly mae yna gerrig filltir yma sydd yn heriol ond sydd yn gyraeddadwy.
"Ond mae angen dechrau ar y gwaith rŵan - mae angen i'n cynlluniau fod yn fwy uchelgeisiol nag y ma' nhw wedi bod yn y gorffennol."
'Pob awdurdod yn unigryw'
O dan y cynigion, bydd hyd cynlluniau awdurdodau hefyd yn cynyddu o gylch tair blynedd i gylch 10 mlynedd.
Daw'r newidiadau yn sgil adolygiad o gynlluniau strategol Cymraeg ym myd addysg.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Mae'r newidiadau hyn yn bwysig os ydym am wireddu gweledigaeth ein cwricwlwm newydd, sef sicrhau bod pob dysgwr yn ddwyieithog o leiaf wrth adael yr ysgol."
"Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn unigryw, ond mae gan bob un ohonynt rôl yr un mor bwysig o ran ehangu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ac rydym yn ymrwymedig i gydweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu eu darpariaeth."
Bydd ymgynghoriad ar gynllun y llywodraeth yn parhau hyd 2 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd22 Medi 2016