Athrawon yn cynnal streic dridiau yn erbyn ailstrwythuro

  • Cyhoeddwyd
Protest Ysgol Bryn Alyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd undeb NASUWT fod penaethiaid Ysgol Bryn Alyn wedi dangos "diffyg gofal dros staff"

Mae athrawon yn ardal Wrecsam yn cynnal streic am dridiau mewn anghydfod ynglŷn â chynlluniau i ailstrwythuro.

Fe wnaeth 26 aelod o undeb yr NASUWT yn Ysgol Bryn Alyn, Gwersyllt, bleidleisio dros weithredu yn ddiwydiannol ar ôl gweld swyddi uwch reolwyr yn cael eu hysbysebu.

Dywedodd yr undeb fod penaethiaid yr ysgol, sydd â 700 o ddisgyblion, wedi dangos "diffyg gofal dros staff" ac o fod yn "fyrbwyll".

Mewn llythyr at rieni, dywedodd y pennaeth, Adele Slinn, nad oedd unrhyw athro yn cael y sac a'u bod wedi cynnig sawl cyfaddawd i'r undeb.

Cafodd Ysgol Bryn Alyn ei roi dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru yn dilyn adroddiad beirniadol gan y corff arolygu Estyn.

Yn ôl y cynlluniau ailstrwythuro, roedd rôl pennaeth nifer o adrannau yn diflannu.

Yn eu lle, daw penaethiaid cyfadran i fod yn gyfrifol am sawl maes gwahanol.

Ysgol Bryn AlynFfynhonnell y llun, Geograph/Eirian Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae aleodau NASUWT wedi pleidleisio i weithredu'n ddiwydiannol

'Dim opsiwn arall'

Yr hysbysebion am y swyddi newydd yn y Times Educational Supplement sydd wedi corddi'r undeb.

"Mae'r cyflogwyr wedi bwrw 'mlaen gydag ailstrwythuro diangen, gan fygwth swyddi arweinwyr pwnc a chreu consyrn ac ansicrwydd i athrawon," medd Chris Keates, ysgrifennydd cyffredinol NASUWT.

"Mae gormod o ysgolion yn defnyddio ad-drefnu'r cwricwlwm fel esgus i ymgymryd â newidiadau staffio.

"Dyw athrawon ddim yn strecio heb reswm, ond does dim opsiwn arall."

Ond mewn llythyr at rieni dywed y prifathro fod y cynigion yn cyd-fynd â galwad Estyn am arweinyddiaeth well o fewn yr ysgol.

Ychwanegodd fod staff wedi cael y cyfle i geisio am swyddi yn y drefn newydd, ond gan nad oedd nifer wedi dewis gwneud, cafodd y swyddi eu hysbysebu yn allanol.

Bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion blwyddyn 7, 8 a 9 rhwng 4-6 Mehefin.

Dywed yr ysgol na fydd arholiadau TGAU disgyblion blwyddyn 11 yn cael eu heffeithio.