Cyhoeddi rhestr fer Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019
- Cyhoeddwyd
Mae panel o feirniaid wedi dewis y chwe chystadleuydd fydd yn ymgeisio am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel eleni.
Ym marn y panel, dyma oedd y cystadleuwyr mwyaf addawol o fewn y categori oedran hŷn o dan 25 oed.
Meithrin talent rhai o berfformwyr ifanc gorau Cymru yw nod y cynllun ac mae'r enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £4,000.
Ond i nodi 20 mlynedd ers sefydlu'r ysgoloriaeth eleni, fe fydd hefyd yn perfformio yn un o'r dathliadau byd-eang ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2020.
Y chwech fydd yn cystadlu eleni fydd:
Rhydian Jenkins - Aelod Unigol Cylch Ogwr, Morgannwg Ganol
Cai Fôn Davies - Aelod JMJ, Eryri
Steffan Lloyd Owen - Aelod Unigol, Cylch Cefni, Ynys Môn
Daniel Jones - Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd a'r Fro
Thomas Mathias- Aelod Unigol Cylch Aberystwyth, Ceredigion
Morgan Llywelyn Jones - Aelwyd y Gwendraeth, Gorllewin Myrddin
Jeremy Huw Williams, Ffion Dafis, Einir Wyn Jones, Cerian Mai Phillips a Glain Dafydd oedd ar y panel dewis, gan ystyried perfformiadau ymgeiswyr mewn naw o gystadlaethau canu, chwarae offeryn, llefaru, actio, a dawnsio.
Bydd yr Ysgoloriaeth eleni ar 11 Hydref yn Neuadd Goffa'r Barri, a'r tocynnau ar werth ddiwedd Mehefin.
Dywedodd y panel: "Mae wedi bod yn brofiad ac yn broses bleserus gwylio'r fath dalent ond roedd y chwe pherfformiwr yma yn serennu a hynny yn y modd roeddent yn cyfathrebu â'u cynulleidfa ac oherwydd i ni gael ein cyffroi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd31 Mai 2019
- Cyhoeddwyd30 Mai 2019