Ymgynghori ar newid iaith pump o ysgolion Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Rhys PrichardFfynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Yn Ysgol Rhys Prichard yn Llanymddyfri y cynnig yw newid natur y ddarpariaeth yn ffurfiol i'r Gymraeg

Bydd ymgynghoriad yn dechrau ddydd Llun ar newid y ddarpariaeth ieithyddol ym mhump o ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin am gael adborth ar gynigion i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Rhys Prichard, Ysgol y Ddwylan, Ysgol Llys Hywel, Ysgol Griffith Jones ac Ysgol Llangynnwr - ysgolion sydd ar hyn o bryd yn ysgolion dwy ffrwd.

O dan y cynlluniau, bydd yr iaith a ddefnyddir yn y cyfnod sylfaen yn Ysgol y Ddwylan yng Nghastellnewydd Emlyn , Ysgol Griffith Jones yn San Cler, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel, Hendygwyn yn newid i'r Gymraeg, gyda dewis o'r cyfrwng Saesneg yn cael ei gyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 2.

Yn Ysgol Rhys Prichard yn Llanymddyfri, lle mai dim ond un plentyn sy'n cael ei addysgu drwy gyfrwng y Saesneg ar hyn o bryd, y cynnig yw newid natur y ddarpariaeth yn ffurfiol i'r Gymraeg.

Mae'r cynigion yn cyd-fynd â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr awdurdod a'r weledigaeth am Sir Gaerfyrddin ddwyieithog, yn ogystal ag amcanion Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

'Dim amser i'w wastraffu'

Nod Cyngor Sir Gaerfyrddin yw bod pob disgybl yn siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn rhugl erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2.

Disgrifiad o’r llun,

Glynog Davies ydy deilydd portffolio Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Gaerfyrddin

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: "Mae'r ymgynghoriad yn rhan bwysig iawn o'r broses.

"Mae'n gyfle i bobl roi eu barn ac i ni glywed beth sydd ganddynt i'w ddweud. Byddwn yn gwrando ar yr ysgolion, y rhieni ac unrhyw un arall sy'n cymryd diddordeb.

"Rydym eisiau symud ymlaen gyda'n gilydd, ac mae hynny'n hanfodol ac yn bwysig i lwyddiant y cynllun hwn.

"Mae 2050 yn teimlo'n bell iawn i ffwrdd ond mae'n rhaid i'r broses ddechrau nawr - ni allwn wastraffu amser."

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

  • Ysgol Rhys Prichard - 3 Mehefin, 17:00-19:00

  • Ysgol Llys Hywel - 4 Mehefin, 17:00-19:00

  • Ysgol y Ddwylan - 5 Mehefin, 17:00-19:00

  • Ysgol Griffith Jones - 6 Mehefin, 17:00-19:00

  • Ysgol Llangynnwr - 7 Mehefin, 17:00-19:00