Addysg Gymraeg i blant awtistig yn 'frwydr' yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Yn ôl mam i ddau fab sydd ag awtistiaeth, mae angen i Gyngor Sir Gâr wneud mwy i sicrhau fod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i blant awtistig o fewn y sir.
Bu'n rhaid i Carol Jones o Lanelli frwydro i sicrhau bod ei phlant yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cred Ms Jones nad oes digon o unedau Cymraeg yn y sir.
Dywed y cyngor sir fod ganddynt gynllun strategol ar gyfer gwella'r ddarpariaeth o ran y Gymraeg.
'Rhif ar restr'
"Beth o' ni'n teimlo ar y pryd oedd mai dim ond rhif yw Harri ar restr hir o blant awtistig yn y sir," meddai Ms Jones.
"Does dim digon o ddarpariaeth i helpu plant sy'n Gymraeg yn naturiol i nhw gael mynd i unedau Cymraeg.
"Ma' nhw mo'yn addysg Gymraeg a ma' rhywun yn dweud wrtho nhw bod e ddim i gael - bod rhaid mynd i uned Saesneg. Beth y' chi fod 'neud?"
Er bod yn rhaid teithio dros 20 milltir, roedd y mab hynaf, Harri yn mwynhau addysg iaith a lleferydd arbenigol yn Nantgaredig.
Ond wrth iddo dyfu'n hyn, roedd angen iddo symud i ganolfan arall, ac mae Ms Jones yn dweud i swyddogion fynnu nad oedd 'na uned o fewn y sir fyddai'n cynnig yr addysg angenrheidiol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd ganddi ddewis anodd; anfon Harri i ysgol Gymraeg heb arbenigedd, neu ei symud i ganolfan arbenigol cyfrwng Saesneg.
'Siomedig iawn'
Daeth yn amlwg i Ms Jones bod datblygiad Harri yn arafu: "Pan ddechreuodd e 'na - odd e'n dawel iawn.
"O' nhw dim ond yn rhoi iaith a lleferydd iddo fe yn y Saesneg - o nhw ddim yn rhoi e iddo fe yn y Gymraeg a sylwes i bod e'n mynd yn lot mwy tawel."
Gan gyfeirio'n benodol at ei phrofiad hi yn Sir Gaerfyrddin, mae Ms Jones yn teimlo'n siomedig iawn ei bod hi wedi gorfod brwydro mor galed.
"Dwi wedi brwydro iddo fe fynd i uned iaith. Dwi wedi brwydro iddo fe fynd i uned awtistiaeth yn y Gymraeg.
"Fi mo'yn neud siŵr fod pobl yn ymwybodol o'r ddarpariaeth sydd mas yna."
Mae Harri bellach yn mwynhau ei addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghanolfan yr Eithin ym Maes y Gwendraeth, ac fe fydd ei frawd iau Ellis yn ymuno yn fuan.
Dywedodd Glynog Davies, deilydd portffolio Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Gâr, fod y sir am wneud eu gorau glas i helpu teuluoedd sydd â phlant ag awtistiaeth.
"Mae gyda ni ddwy ganolfan lle mae plant yn mynychu; canolfan gynradd yn Nantgaredig ac yna i blant oedran uwchradd mae gyda ni Ganolfan yr Eithin yn Ysgol Maes y Gwendraeth."
Ychwanegodd ei fod yn "rhan o'n cynllun strategol ni yn y Gymraeg i wella darpariaeth, i uwchsgilio'n staff ni, felly mae hyn yn bwysig i ni".
"Dy' ni ddim yn anwybyddu'r Gymraeg o gwbl. Ry' ni am roi bob cyfle i'r plant yma.
"Yn y gorffennol, dwi'n barod i dderbyn y gallai ambell i swyddog fod wedi dweud wrth riant y byddai'n well derbyn addysg Saesneg a byddan nhw'n ymdopi'n well gydag un iaith. Dim nawr."
Ymchwil ar ddwyieithrwydd
Mae dwyieithrwydd ac awtistiaeth yn cael ei drafod fel rhan o gynllun ymchwil eang MEITS (Multilingualism: empowering individuals, transforming societies) o fewn Prifysgol Caergrawnt, gan edrych yn benodol ar Gymru.
Yn ôl Katie Howard o Brifysgol Caergrawnt, sy'n arwain yr ymchwil ar ddwyieithrwydd ac awtistiaeth yng Nghymru, mae diffyg darpariaeth yn broblem.
"Mae'r gwaith ymchwil yn awgrymu bod plant a rhieni yn dueddol o fod yn bositif tuag at ddwyieithrwydd, ond eu bod yn aml yn cael eu dal yn ôl yn sgil diffyg darpariaeth arbenigol drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Yn gyntaf, dwi'n credu bod angen mwy o gyngor a chefnogaeth i deuluoedd sy'n gwneud y penderfyniadau anodd yma..."
"Yn ail, dwi'n credu bod angen mwy o ddarpariaeth gydag ysgolion arbenigol drwy gyfrwng y Gymraeg fel bod y dewis o gael bod yn ddwyieithog yn bosib i blant sydd ag awtistiaeth yng Nghymru."
Mae ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cod Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru yn dod i ben ar 22 Mawrth.
Gan gyfeirio at addysg Gymraeg a Saesneg, mae'r cod yn dweud bod angen "system ddwyieithog lle cymerir pob cam rhesymol i gyflwyno darpariaeth ddysgu ychwanegol drwy'r Gymraeg i blant a phobl ifanc sydd angen cymorth drwy'r Gymraeg...".
Beth yw cam rhesymol?
Tra'n croesawu'r cod, mae Mudiad Meithrin yn credu bod angen mynd ymhellach.
Yn ôl y rheolwr prosiect Angharad Starr, fe allai problemau godi wrth geisio dehongli beth yn union yw "pob cam rhesymol".
"Beth fydden i'n hoffi gweld yw mwy o fanylder yn y cod ymarfer sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, i ddangos yn glir i awdurdodau lleol a byrddau iechyd, o ran beth yw eu disgwyliadau nhw o ran y cam mae angen cymryd er mwyn sicrhau eu bod nhw'n ceisio darparu yn y Gymraeg i deuluoedd."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y ddeddf yn ei gwneud hi'n ofynnol i ysgolion, awdurdodau lleol a chyrff y GIG ystyried a ddylid cynnig darpariaeth gefnogol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Gymraeg, gan gymryd pob cam rhesymol i wneud hynny os oes angen.
"Wrth adolygu'r trefniadau ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, mae'n ofynnol hefyd i awdurdodau lleol sicrhau bod y ddarpariaeth Gymraeg hon yn ddigonol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2019